Carnifal Cilie wedi’r Covid

Llwyddiant mawr i’r Carnifal ar ôl toriad hir

gan Alwen Thomas
FB_IMG_1688317036396

Milly Mathias a Dylan Williams (Brenhines a Brenin y Carnifal)

FB_IMG_1688317140262

Y beirniaid, Jan a Karen Shearsmith, yn coroni’r Brenin a’r Frenhines

FB_IMG_1688317150866

Y Brenin, Brenhines a’r Osgordd

20230701_145220

Buddugwyr y Babanod

20230701_145727

Buddugwyr Meithrin a Derbyn

20230701_150051

Buddugwyr Blwyddyn 1 a 2

20230701_150241

Buddugwyr Blwyddyn 3 a 4

20230701_150501

Buddugwyr Blwyddyn 5 a 6

20230701_150953

Buddugwyr Plant Ysgol Uwchradd/Oedolion

20230701_151332

Buddugwyr Cymeriad Gorau oddi ar y Teledu

20230701_151601

Buddugwyr Pâr/Grŵp Gorau

20230701_151804

Enillydd yr Enillwyr

Dydd Sadwrn y 1af o Orffennaf, cynhaliwyd Carnifal Ciliau Aeron am y tro cyntaf ers cyn Pandemig Covid-19.

Brenhines y Carnifal eleni oedd Milly mathias, a Dylan Williams oedd y Brenin. Disgyblion blwyddyn 1 Ysgol Ciliau Parc fer arfer yw’r Osgordd, ond er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw blentyn wedi colli’r cyfle i fod yn rhan o’r Osgordd oherwydd y Cyfnodau Clo, estynnwyd gwahoddiad i ddisgyblion blynyddoedd 1, 2, 3 a 4.

Dyma restr o’r plant a oedd yn rhan o’r Osgordd:

Blwyddyn 1: Dewi Evans, Timothy Williams, Siân Hodgson.

Blwyddyn 2: Anest Dafydd, Hari Wozencraft, Guto Jenkins, Bleddyn Thomas.

Blwyddyn 3: Arwel Williams, Osian Williams, Ffion Evans, Myfi Pugh, Emma Hughes, Hana Lewis, Guto Storer, Gruff Dafydd.

Blwyddyn 4: Mark Williams, Ifan Wozencraft, Meian Jenkins, Cerys Edkins, Liliana Cockburn, Elsy Jenkins, Bella Hayday

Cystadlaethau Gwisg Ffansi

Yn dilyn coroni’r Brenin a’r Frenhines bu’r beirniaid Jan a Karen Shearsmith yn beirniadu cystadlaethau’r Gwisg Ffansi. Dyma’r canlyniadau:

Babanod:

1af – Florence (Tinkerbell)

2il – Celt (Lindysen)

3ydd – Imogen Eadon (Cwningen)

Plant Meithrin a Dosbarth Derbyn:

1af – Benjamin Eadon (John Deere)

2il – Fflur Thomas (Ms Thomas – prifathrawes/foreman Ysgol Dyffryn Aeron)

3ydd – Martha (Wonderwoman)

Blwyddyn 1 a 2:

1af – Dewi Evans (Tywysog Louis)

2il – Timothy Williams (Ironman)

3ydd – Bleddyn Thomas (Adeiladwr Ysgol Dyffryn Aeron)

Blwyddyn 3 a 4:

1af – Arwel Williams (Uncle Albert)

2il – Ffion Evans (Tywysoges Charlotte)

Blwyddyn 5 a 6:

1af – Lea Thomas (Glastonbury)

2il – Tomos Williams (Dellboy)

3ydd – Evelyn Eadon (Matilda)

Plant Ysgol Uwchradd/Oedolion:

1af – Betty Ellis (Cranogwen)

2il – Rhian Thomas (Glastonbury)

3ydd – Maddie Eadon (John Deere)

Cymeriad Gorau oddi ar y Teledu:

1af – Arwel Williams (Uncle Albert)

2il – Bleddyn Thomas (Bob y Bildar)

3ydd – Thomas Fear (Sam Tân)

Pâr neu Grŵp Gorau:

Florence a George (Tinkerbell a Peter Pan)

Enillydd yr Enillwyr:

Benjamin Eadon (John Deere)

Mabolgampau

Yna, cynhaliwyd y Mabolgampau gyda’r plant a’r oedolion yn mwynhau rasus wy ar lwy, bag ffa ar y pen, ras deircoes a thaflu welington. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd gemau ‘It’s A Knockout.’ Roedd 6 tîm o blant, tîm menywod a thîm dynion. Cafwyd tipyn o hwyl yn bwyta cracyrs sych a weetabix sych, ac roedd gornestau tynnu’r gelyn yn hynod o boblogaidd. Tîm y Mwnciod oedd yn fuddugol!

Diolch i bwyllgor y neuadd am y trefniadau, Gethin Jones am gael benthyg y cae ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y dydd.