Taith ar Gwch i blant Ysgol Sul Llwyncelyn

Plant Ysgol Sul Capel Llwyncelyn yn joio

gan Alwen Thomas

Bore ’ma, ar ddydd Sul y 16eg o Orffennaf 2023, aeth plant Ysgol Sul Capel Llwyncelyn ar eu taith diwedd blwyddyn.

Mwynhaodd y plant, a’r oedolion, daith ar gwch allan i’r môr o Gei Newydd. Roedd pawb wrth eu boddau i weld y dolffiniaid yn ymddangos uwchben y dŵr. O ystyried y tywydd digon garw diweddar, doedd y tonnau ddim yn rhy ffôl!

Diolch i Frances Jones am drefnu’r daith, i Elin Mair am gynnal yr Ysgol Sul drwy gydol y flwyddyn, ac i Dafydd Tudur am gynnal y cyrddau teuluol.