Gêm o Ddwy Hanner

Aberdaugleddau 22 – 30 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
1

Tîm Aberaeron wedi’r fuddugoliaeth

Yn eu hail gêm o’r tymor bu rhaid i’r Gwylanod deithio i waelodion Sir Benfro nos Fercher i chwarae tîm o’r ail adran yn rownd gyntaf Cwpan Sir Benfro. Roedd y gwahaniaeth rhwng safon rygbi’r ddau dîm yn amlwg yn y munudau cyntaf, gydag Aberdaugleddau yn cario’n gryf trwy eu pac mawr ac  amddiffyn Aberaeron yn aml yn llithro oddi ar eu gwrthwynebwyr yn y dacl. Ar ben hynny, roedd chwiban y dyfarnwr yn gyson yn erbyn yr ymwelwyr am eu taclo uchel. O’r herwydd, ychydig iawn o feddiant a gafwyd gan yr ymwelwyr yn yr hanner awr gyntaf ac mi roedd hi’n edrych bod noson hir o’u blaen.

Er hynny, Aberaeron oedd y cyntaf i roddi sgôr ar y bwrdd trwy gic gosb gan Rhodri Thomas. Ateb y tîm cartref oedd sgorio dwy drosgais a chais i roi’r bwlch yn 19-3 gyda thua deng munud i fynd cyn yr egwyl. Er syndod i bawb mi wnaeth Aberaeron daro’n ôl gyda chais gan y capten, Morgan Llewelyn a throsiad gan Rhodri Thomas. Sgoriwyd cic gosb yr un gan y ddau dîm gan roi’r sgôr yn 22 – 13  ar hanner amser.

Ail Hanner

Yn ystod yr egwyl, mae’n rhaid bod y ddau hyfforddwr, Ryan Williams a Dyfrig Dafis wedi gwneud eu gwaith gan fod perfformiad yr ymwelwyr yn yr ail hanner yn arbennig ac yn effeithiol. Bu ymddangosiad Rhodri Jenkins yn y canol, a oedd yn hwyr yn cyrraedd yn bwysig i’r trawsnewidiad hyn. Nid oedd Aberaeron bellach yn cael eu cosbi fel yn yr hanner cyntaf, er iddynt orfod amddiffyn yn galed am y deng munud cyntaf. Hefyd, cafwyd perfformiadau arbennig gan yr olwyr gyda Gethin Jenkins, Rhodri Jenkins a Morgan Llewelyn yn torri’n glir gyda chymorth yn eu dilyn i barhau’r symudiadau.  Roedd y pasio allan o’r dacl gan bawb yn effeithiol iawn.

Cais Gosb

Wedi un o’r bylchiadau hyn gyda chymorth gan, Steffan “Bwtch” Jones, oedd yn chwarae yn y rhes gefn am y tro cyntaf, mi dderbyniodd y bêl gydag un dyn i’w faeddu. Roedd e’n sicr o sgorio. Yn anffodus i Steffan mi gafodd ei rwystro, ond gyda thacl uchel. Dyfarnwyd cais gosb i Aberaeron ac mi ddanfonwyd cefnwr Aberdaugleddau i’r gell gosb.

Colli Rheolaeth

Erbyn hyn roedd Aberaeron yn rheoli’r gêm gyda’i hyder yn uchel ac mi roedd y tîm cartref yn rhwystredig ac yn methu dygymod â chwarae celfydd yr ymwelwyr. Danfonwyd un arall i’r gell gosb gan adael Aberdaugleddau gyda 13 chwaraewr am gyfnod.

Ar Y Blaen

Bu’r gefnogaeth gref wnaeth deithio o Aberaeron yn ffodus i fod yn dystion i gais arbennig gan Dyfrig Dafis i roddi’r ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf. Symudwyd y bêl trwy nifer o ddwylo gan gynnwys y blaenwyr cyn i’r canolwr groesi’r llinell. Ciciwyd y trosiad gan Rhodri Jenkins. Yn anffodus, bu rhaid iddo adael y cae yn syth wedi’r gic oherwydd anaf. Bu ei 25 munud ar y cae yn werthfawr!

Bu’r ymgais gan Aberdaugleddau i daro’n ôl yn aflwyddiannus gan fod amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn. Roedd angen un sgôr arall ar Aberaeron i wneud y gêm yn ddiogel ac mi gafwyd hynny drwy gic gosb o bellter gan Rhodri Thomas. Roedd angen dwy sgôr ar Aberdauglddau os am ennill, ond methiant bu eu hymdrech.

Perfformiad arbennig felly yn yr ail hanner gan Aberaeron. Edrychwn ymlaen at yr ail rownd yn erbyn enillwyr y gêm rhwng Abergwaun ac Aberystwyth.