Llwyddiant i Dylan dros yr haf

Bachgen 8 oed o Aberaeron yn bencampwr Triathlon Tristar.

gan Mair Jones

Mae bachgen 8 oed o Aberaeron wedi disgleirio dros yr haf yng ngystadlaethau Triathlon Tristar sy’n cael eu trefnu gan Triathlon Prydain a Triathlon Cymru gan gystadlu yn erbyn unigolion o dros Brydain.

Teithiodd Dylan May-John i gystadlu mewn 10 lleoliad o Swydd Shropshire i Surrey, o Gaerdydd i Brighton a Hove. Yr her yno oedd nofio 100m yn y môr, seiclo 1.5 k.m. a rhedeg 600m.

Llwyddodd i ennill 9 prif wobr ac 1 ail safle. Camp arbennig.
Bydd Dylan yn cystadlu yng nghystadaeaeth olaf y tymor yn Harlech ym mis Hydref.

Ar hyd y daith mae wedi cael ei gefnogi gan Glwb Nofio Llandysul a Chlwb Rhedeg Sarn Helen ynghŷd â Phwll Nofio Cymunedol Aberaeron.

Pob lwc yn Harlech ac edrychwn ymlaen i ddilyn hanes Dylan yn y dyfodol.