Alaw Fflur Jones yn ennill yn Eisteddfod gyntaf Penbre a Phorth Tywyn 

Ennill Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc am stori fer yn ymdrin ag Iechyd Meddwl ac amaethyddiaeth

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
90A6EC69-DF81-4B26-AEA5

Llun gan Tudur Dylan Jones.

75EB3680-43C4-48F5-815D

Llun gan Tudur Dylan Jones.

Alaw Fflur Jones o Felinfach ag enillodd Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc yn Eisteddfod Penbre a Phorth Tywyn ddoe.

Roedd hi’n gystadleuaeth dda gyda chwech llenor ifanc yn cystadlu. Roedd gofyn i’r ymgeiswyr gyflwyno darn neu ddarnau o lenyddiaeth heb fod dros 2,000 o eiriau a’r beirniad oedd Y Prifardd Tudur Dylan Jones.

Canmolwyd Alaw Fflur yn fawr iawn gan y beirniad am ei dawn o gyflwyno hiwmor a dwyster yn ei gwaith. “Llwyddodd i’n harwain i ryw gyfeiriad a gadael i’r darllenydd i feddwl.”

Stori fer oedd gan Alaw Fflur am aelod o’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn wynebu penderfyniadau anodd ar y fferm oherwydd deddfwriaeth newydd. Daw elusen Tir Dewi yn rhan o’r plot a’r uchafbwynt yw’r ddeuoliaeth posib yn niweddglo’r stori.

Llongyfarchiadau gwresog i ti Alaw. Tipyn o anrhydedd cael dy wobrwyo ddwywaith mewn ychydig fisoedd gan yr un beirniad. Tudur Dylan a ddyfarnodd y wobr gyntaf i Alaw Fflur yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed hefyd ar ddiwedd mis Awst eleni.

Eisteddfod newydd sbon oedd hon yn Neuadd Goffa Porth Tywyn ddoe, a dywedodd Matthew Tucker y trefnydd,

“Gwych oedd cael enillydd profiadol yn y gystadleuaeth hon yn cipio Tlws yr Ifanc gyntaf Eisteddfod Gadeiriol Penbre a Phorth Tywyn. Llongyfarchiadau enfawr i Alaw unwaith yn rhagor, a diolch o galon iddi am gefnogi’r Eisteddfod.”

1 sylw

Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Da clywed bod Eisteddfod newydd ym Mhorth Tywyn.

Mae’r sylwadau wedi cau.