Mae Menter Tafarn y Vale newydd sicrhau £122,000 o gyllid gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, i wella cyfleusterau’r dafarn.
Bydd y cyllid hwn yn cael ei ychwanegu at y buddsoddiad a gafodd ei gadarnhau fis Medi, sef £300,000 gan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth San Steffan.
Mae llwyddiant y ddau gais am grant yn hwb sylweddol i’r Fenter.
Ar ddechrau’r ymgyrch gwerthu siârs, ein nod oedd gwneud i bob £1 oedd yn cael ei gyfrannu gan bobol gael ei ddwblu. Diolch i ymdrechion arbennig pobol a busnesau o Ddyffryn Aeron union ddwy flynedd yn ôl, lle codwyd dros £380,000 mewn siârs, rydym wedi llwyddo i’w ddefnyddio fel cyllid cyfatebol (match-funding) a dyblu’r buddsoddiad gydag arian cyhoeddus.
Gyda’r Vale bellach wedi’i brynu, bydd yr arian grant yma’n mynd tuag at:
- wella ansawdd yr adeilad presennol
- gwella cyfleusterau’r tai bach a’r gegin
- gwneud yr adeilad yn fwy hygyrch
- defnyddio ynni’n fwy effeithlon
- adnewyddu’r stabal i fod yn ystafell gymunedol aml-bwrpas
Daw mwy o newyddion yn y man wrth i ni baratoi at y gwaith adeiladu.
Cofiwch alw heibio unrhyw bryd – i un o’n digwyddiadau dros gyfnod y Dolig neu am beint a sgwrs gyda’r nos!