Plant Aberaeron yn ‘Loncian i Landdwyn’.

Digwyddiad arbennig yn uno cymuned er budd plant yr Ysgol Gynradd. 

gan Mair Jones
8F79FA04-9E37-4219-98AF
20515357-89AB-4E8A-B111

Nos Iau diwethaf ar Noson Santes Dwynwen casglodd tyrfa fawr yng Nghae Sgwâr Aberaeron i weld penllanw deuddeg diwrnod o weithgareddau sydd wedi bod yn destun siarad trwy’r dre!

Fe osododd plant Dysgu Sylfaen yr Ysgol Gynradd her i’w hunain i ‘Loncian i Landdwyn’ ar y diwrnod arbennig hwn. Cyfanswm y milltiroedd oedd angen eu cyflawni oedd 113, sef y milltiroedd o Aberaeron i Ynys Llanddwyn. Tipyn o her!

Erbyn 4.30yp roedd y lle yn llawn bwrlwm gyda’r cae wedi’i oleuo a miwsig yn atsain trwy’r dre! Gosodwyd trac ar ffurf calon yng nghanol y cae ac mi oedd yn olygfa arbennig i weld hyd yn oed plant y dosbarth meithrin yn ymdrechu’n galed i gwblhau’r her gyda chefnogaeth eu rhieni, teuluoedd a’u hathrawon.

Dros y deuddeg diwrnod cyn hynny fe ryddhawyd fideos yn ddyddiol ar gyfryngau cymdeithasol yr Ysgol ac ar dudalen Facebook ‘Straeon Aberaeron’ a oedd yn hyrwyddo’r digwyddiad yn defnyddio unigolion o’r gymuned. Gwelwyd amrywiaeth o unigolion o’r ficer i’r cynghorydd lleol a’r maer ynghyd â llawer o bobl fusnes y dref yn gwneud campau digon rhyfedd a ddenodd ddiddordeb anhygoel gan y cyhoedd. Mae’n werth chi gael golwg arnynt!

Dyma beth oedd digwyddiad a unodd y gymuned gyfan gan godi arian at yr Ysgol Gynradd leol a chreu brwdfrydedd a hwyl yng nghanol mis Ionawr digon diflas.

Diolch i Bwyllgor Gwelliannau Aberaeron am eu cymorth a’r Clwb Pêl-droed am fenthyg y llifoleuadau.