Prosiect newydd – ‘O Syniad i Sgript’

Sgen ti syniad am ddrama? Dyma dy gyfle di…

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
438128696_742522238061236

Mewn partneriaeth â Arfor a CFfI Cymru, mae Cwmni Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw yn cynnig cyfle arbennig i 10 unigolyn ymuno â hwy am benwythnos preswyl ym Mhentre’ Ifan, rhwng 7-9 Mehefin, 2024, fel rhan o’u prosiect newydd – ‘O Syniad i sgript’.

Mae’r penwythnos yn rhad ac am ddim i unigolion 18+, ac yn cynnwys gweithdai sgriptio a chyfle i ddechrau ysgrifennu. Yn dilyn y penwythnos, bydd cyfle iddynt hefyd gael eu mentora gan ddramodwyr proffesiynol am gyfnod o 3 mis i fireinio eu crefft, cyn cynhyrchu dramâu gwreiddiol i’w cyhoeddi ar blatfform ar-lein, y Llyfrgell Ddramâu erbyn diwedd y flwyddyn.

Nod y prosiect?

Mae Theatr Troed-y-rhiw ei hun yn nodedig am eu cynyrchiadau uchelgeisiol, ond hefyd am Yr Ŵyl Ddrama a chynhelir bob dwy flynedd, sy’n cynnig uchafbwynt creadigol i fyd y theatr yng nghefn gwlad Ceredigion.

Mae’r prosiect ‘O Syniad i sgript’ yn adeiladu ar lwyddiant dau o gynyrchiadau diweddar Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw sef Theatr Unnos a berfformiwyd yn ystod Yr Ŵyl Ddrama llynedd, a’r ddrama gomisiwn ‘Torth Stêl’ a darllenwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, cyn ei lwyfannu’n swyddogol yn Nhafarn y Vale, fel traean o noson ‘Hi, Hi, Hi’.

Mae’r prosiect hefyd yn ymateb i her amlwg sy’n codi ar hyn o bryd yng Nghymru, sef diffyg dramâu byr gwreiddiol newydd yn y Gymraeg.

Gwaddol y prosiect felly, fydd bod dramâu gwreiddiol newydd ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, er mwyn cynnal bwrlwm cymdeithasol yn lleol, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yn ŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.

Sut i ymgeisio?

Os wyt ti’n 18+, dyma dy gyfle i droi dy syniad am ddrama yn sgript…

Does dim angen profiad, dim ond ti â dy syniad!

Ymgeisia yma, dyddiad cau 22.04.24.

Os am wybodaeth bellach, cysylltwch â theatrtroedyrhiw05@gmail.com.