Bore Coffi yn codi arian at gynnal diffibrilwyr Aberaeron.

£1,111.00 at achos da lleol.

gan Mair Jones

Codwyd £1,111.00 gan Ffrindiau Da Aberaeron Good Friends tuag at gynnal a chadw diffibrilwyr y dref gyda bore coffi ar ddydd Gwener y Groglith.  Diolch i bawb a wnaeth gefnogi’r achlysur; i Dr. Helen Evans am ei agor; i Pauline Bett a Sandra Williams am eu harddangosiad gyda diffibrilwr; ac i John Thomas, Costcutters, a Chlwb Chwaraeon Aberaeron am eu cefnogaeth hael .

Yn y llun gweler Rhodri Jones, AED Aberaeron, a Dr. Helen Evans yn dal y siec, gyda rhai aelodau o Ffrindiau Da Aberaeron.