Penwythnos preswyl ‘O syniad i sgript’ yn agosáu…

Sgriptio dramâu gwreiddiol newydd i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol!

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
5
6
7
8

Mewn partneriaeth â Arfor a CFfI Cymru, bydd Cwmni Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw yn croesawu 10 unigolyn i ymuno â hwy am benwythnos o sgriptio ym Mhentre’ Ifan, rhwng 7-9 Mehefin fel rhan o’u prosiect newydd – ‘O Syniad i sgript’.

Mae’r penwythnos yn rhad ac am ddim i unigolion 18+, ac yn cynnwys gweithdai sgriptio a chyfleoedd i ddechrau ysgrifennu. Yn dilyn y penwythnos, byddant yn cael  eu mentora gan ddramodwyr proffesiynol am gyfnod o 3 mis i fireinio eu crefft, cyn cyhoeddi eu dramâu ar blatfform ar-lein, y Llyfrgell Ddramâu ym mis Rhagfyr.

Nod y prosiect?

Mae’r prosiect yn ymateb i her amlwg sy’n codi ar hyn o bryd yng Nghymru, sef diffyg dramâu byr gwreiddiol newydd yn y Gymraeg.

Gwaddol y prosiect felly, fydd bod dramâu gwreiddiol newydd ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, er mwyn cynnal bwrlwm cymdeithasol yn lleol, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yn ŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.

Y Mentoriaid

Mae gan Theatr Troed-y-rhiw pedwar dramodydd profiadol fel mentoriaid ar y prosiect!

Mae’r mentoriaid yn cynnwys –

  • Sian Summers
  • Mared Llywelyn
  • Branwen Davies
  • Iola Ynyr

Mae’n rhagweld i fod yn benwythnos a hanner ym Mhentre Ifan, ac mae criw Theatr Troed-y-rhiw yn edrych ymlaen yn arw at gwrdd a chroesawu’r 10 unigolyn a’r mentoriaid a fydd yn ymuno â hwy ar y prosiect!