Dathlu Ysgol Gynradd Dihewyd

Cyngerdd i ddathlu a chofio am Ysgol Gynradd Dihewyd.

Manon Wright
gan Manon Wright
cynddisgyblion-iau-staff
cynddisgyblion-iau-staff-1
15.Cacennau

Mae Ysgol Dihewyd wedi bod yn ganolog i’r pentref ers 1876, ond ar ôl 148 o flynyddoedd mi fydd drysau’r Ysgol yn cau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 2024. Mae’r Ysgol fach hon wedi dylanwadu ar fywydau cenedlaethau o deuluoedd dros y blynyddoedd, ac wedi cyfrannu’n helaeth tuag at y gymuned a’r gymdeithas. Mae’n agos iawn at galonnau nifer ohonom ac felly rhaid oedd mynd ati i drefnu dathliad.

Dydd Iau 27ain o Fehefin cynhaliwyd cyngerdd yn y Neuadd Bentref er mwyn dathlu a chofio bodolaeth yr Ysgol. Braf oedd gweld y neuadd yn orlawn gyda phobl o bob oed wedi ymuno â ni. Llywydd y noson oedd Gareth Evans, Blaengors Fawr gynt. Cyflwynwyd ef gan Gadeirydd y Llywodraethwyr Menna Davies, Fronfedw. Roedd yn braf cael ei gwmni ef a Reyda a hoffwn ddiolch iddo am ei eiriau pwrpasol a rhodd caredig tuag at y noson.

Cafwyd gwledd o berfformiadau gan ddisgyblion presennol, cyn ddisgyblion, staff a llywodraethwyr yr Ysgol. Agorwyd y gyngerdd gan y disgyblion presennol  lle bu’r plant yn canu nifer o ganeuon. Roedd yn hyfryd clywed plant hŷn yr Ysgol yn canu’r gân ‘Sing Together’ lle roeddent yn rhan o ymgais record byd diweddar wrth ganu’r gân yma gyda phlant ar draws Cymru gyfan. Hoffwn ddiolch i Mrs Carwen Lloyd am ysgrifennu cân arbennig i’r disgyblion sef ‘Dathlu’ a chafwyd perfformiad angerddol o’r gân hon. Yn ogystal mawr yw ein diolch i’r cyn-ddisgybl Chris Jones am wneud gweithdy dawns gyda’r disgyblion, a’u hyfforddi i berfformio dawns yn y gyngerdd. Roedd yn wych gweld Chris yn ymuno gyda’r plant am ran o’r ddawns.

Dros yr wythnosau’n arwain at y gyngerdd cynhaliwyd ymarferion ar gyfer cyn ddisgyblion a chafwyd ymateb arbennig. Gwelwyd nifer fawr o gyn ddisgyblion a ffrindiau â diddordeb i fod yn rhan o’r partïon canu, a’r côr. Bu’r criw o gyn-ddisgyblion hŷn yn perfformio dwy gân. Diolch i Ferched Fronfedw am ysgrifennu geiriau arbennig sef ‘Ysgol Dihewyd’ i’r dôn ‘Mae’n Wlad i mi’ gan Dafydd Iwan. Yna bu’r cyn-ddisgyblion iau yn canu Lleucu Llwyd a Dal yn Dynn sef cyfieithiad o’r gân ‘Shine a light’ gan Katrina And The Waves. Daeth criw o gyn- ddisgyblion y ddegawd olaf at ei gilydd i ganu Esgair Llyn a Chalon Lân. Bu Awen Davies yn adrodd y gerdd ‘Milltir Sgwâr’ a oedd yn addas iawn ar gyfer y noson. Cafwyd llawer o chwerthin yng nghwmni Tomos a Dyfan wrth iddynt rannu deuawd doniol â’r gynulleidfa. Mwynhawyd perfformiad gan gyn-lywodraethwraig yr Ysgol, a brenhines canu gwlad, sef Doreen Lewis.

Uchafbwynt y noson oedd cael côr at ei gilydd er mwyn perfformio cân arbennig iawn. Diolch i Doreen Lewis am ysgrifennu’r gân ‘Cofio’n ôl’ a oedd yn crynhoi hanes yr Ysgol yn berffaith.

Roedd yn rhaid cael rhywun i gadw trefn ar y noson a llwyddodd Rhydian Davies, Fronfedw wneud hyn mewn modd hwyliog a di-ffws. Bu llawer o wahanol bobl yn brysur yn cyfeilio sef Ficer Wyn, Ann Owen, Carwen Lloyd, Hillary McConnell a Doreen Lewis a diolch iddynt am eu parodrwydd.

Roedd disgyblion yr Ysgol yn edrych yn smart iawn yn ei crysau-t newydd a mawr yw ein diolch i Owen Evans, Drewen a Dylan Tandy am fod mor hael â noddi rhain ar gyfer y plant. Diolch hefyd i Carys Evans, Drewen am addasu logo’r Ysgol ar gyfer y dathliad hwn. Diolch i Ffion a Meilyr o Argraffwyr Lewis a Hughes am greu’r crysau-t, ac am noddi rhaglenni.

Lansiwyd nifer o nwyddau er mwyn cofio’r Ysgol yn y gyngerdd, ac mae’n rhaid diolch i Argraffwyr Lewis a Hughes am greu amryw o gofroddion (souvenirs). Os hoffech archebu unrhyw eitem, cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r cwmni ar post@printers.cymru neu 01974209086.

Rydym yn ffodus iawn bod neuadd hyfryd ar gael yn y pentref, a hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am gael eu defnyddio. Cafwyd te bendigedig ar ddiwedd y gyngerdd a diolch i bawb a fu’n paratoi a gweini, a hefyd i Alwen Cegin Haul am y cacennau blasus. Recordiwyd y noson gan Dylan Rhys Jones o gwmni Cynyrchiadau Clic er mwyn sicrhau bod y digwyddiad ar gof a chadw.

Roedd yn noson lwyddiannus iawn gyda phawb yn cael cyfle i rannu straeon a hel atgofion. Diolch i’r gynulleidfa am eu presenoldeb a’u cefnogaeth. Dim ond dechrau ar y dathlu yw hyn ac mi fyddwn yn parhau i drefnu digwyddiadau er mwyn cofio’r Ysgol yn ystod y misoedd nesaf.