Etholiad 2024: Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion Preseli

Dilynwch y diweddaraf o’r cyfri a chyfranwch i’r llif byw

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.

Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.

04:37

Ecsgliwif

Cyfweliad cyntaf Ben Lake fel Aelod Seneddol Ceredigion Preseli

04:20

BEN LAKE, PLAID CYMRU wedi ei ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth newydd Ceredigion Preseli

04:17

Y Canlyniad

Ben Lake – Plaid Cymru – 21,738

Jackie Jones – Y Blaid Lafur a Chydweithredol – 5,386

Mark Williams – Y Democratiaid Rhyddfrydol – 6,949

Karl Pollard – Reform UK – 5,374

Aled Thomas – Y Ceidwadwyr – 4,763

Tomos Barlow – Y Blaid Werdd – 1,864

Taghrid Al-Mawed – Workers Party of Britain – 228

04:14

Yr ymgeiswyr yn barod i fynd ar y llwyfan

03:57

Newyddion yn torri

Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn… gwisgo ei dei… canlyniadau ar y ffordd de?

03:50

Diweddariad!

Mae’r cyfri wedi dod i ben!

03:10

Mark Williams wedi cyrraedd… gwell hwyr na hwyrach! Ond, sbel fach to tan y canlyniad…

02:25

Dau lun o ddau gyfnod gwahanol o’r noson.

Y cynta – y canolbwyntio, wrth i dimau ymgyrchu y pleidiau samplo’r pleidleisiau.

Yr ail – te a snacks ac ‘ymlacio’ mae’r timau, wrth ddisgwyl y cyfri. Ac mae lot o gyfri i’w wneud…

01:54

Turnout o 61.38% yng Ngheredigion Preseli.

(Er gwybodaeth, 71.34% oedd turnout Ceredigion yn 2019 – i lawr bron i 10% ar 2019)

01:25

Mae’r bocsys i gyd mewn, heb glywed y turnout eto!