Pob lwc i Josh ym Mharis

Cyffro mawr y Gemau Olympiadd.

gan Mair Jones
DF918832-1750-4DFB-A2B6

Pete, Rae a Siân gyda rhieni Josh, Dawn a Michael tu allan Y Popty.

Mae ’na  edrych ymlaen anhygoel yn Aberaeron a’r ardal tuag at y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni. Dydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 27ain) am 3:30 y.p. bydd Josh Tarling yn cystadlu ar ei feic yn erbyn y cloc. Josh yw un o ffefrynnau’r ras gan ei fod yn bencampwr Cenedlaethol ac Ewropeaidd eisoes.

Bydd Josh hefyd yn cystadlu yn y ras ffordd ar Awst 3ydd am 10.00 y.b. Erbyn hyn mae Josh, sy’n gyn-ddisgybl o ysgolion cynradd ac uwchradd Aberaeron, yn aelod o dîm Inoes Grenadiers yn teithio’r byd yn cystadlu. Mae newydd arwyddo cytundeb am y 3 mlynedd nesaf gydag Ineos.

Diolch i Siân Thomas a Rae Edwards mae yna arddangosfa yn dymuno’n dda i Josh yn ffenest Y Popty, Aberaeron.

Dywedodd Dawn, mam Josh cyn iddi hi a’i gŵr droi am Baris ddiwedd yr wythnos-                                                                                                                                    “Fe wnaethom ni symud i Geredigion am ein bod am i’r bechgyn gael eu magu mewn lle prydferth, ond yr hyn sy’n fy ngwneud yn hapus yw ein bod wedi eu magu ymysg pobl brydferth hefyd. Diolch yn fawr iawn i bawb!”

Pob lwc i ti Josh, bydd gwylio mawr yn Aberaeron.