Coffi a chacennau yn Aberaeron! 

Codi dros fil o bunnoedd mewn awr a hanner!

gan Mair Jones

Roedd Neuadd Ysgol Gynradd Aberaeron yn llawn bwrlwm y bore ddoe (Dydd Gwener) wrth i’r Cyngor Ysgol drefnu Bore Coffi Macmillan.

Bu’r disgyblion yn brysur yn paratoi trwy hysbysebu a gosod y neuadd yn ddeniadol. Cafwyd cystadleuaeth ‘Bake Off’ gydag amrywiaeth o gacennau lliwgar.
Cafodd pawb gyfle i wisgo dillad gwyrdd a phinc o’u dewis a threfnwyd raffl.

Erbyn 11 o’r gloch, roedd cyfanswm o £1,000 wedi ei godi!
Diolch i bawb a wnaeth gynorthwyo a chefnogi’r digwyddiad.