Prynhawn agored yn gyfle i ffarwelio ag Ysgol Felinfach

Diwrnod a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer.

Rhian England
gan Rhian England
20241109_142829289_iOS
20241109_153606097_iOS
20241109_135201616_iOS
20241109_145406552_iOS-1
20241109_152620771_iOS
20241109_150129479_iOS
20241109_143001411_iOS
20241109_150901813_iOS
20241109_135237100_iOS
20241109_135629183_iOS

Cafwyd prynhawn i’w gofio yn yr ysgol ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd pan ddaeth llu o ffrindiau a theuluoedd yr Ysgol at ei gilydd i gael taith o amgylch yr Ysgol am y tro olaf.

Roedd yna lu o luniau i bori drwyddynt yn olrhain hanes yr Ysgol ar hyd y degawdau ac yna paned a chacen i’w fwynhau wrth hel atgofion a chwrdd â ffrindiau hen a newydd.

Torrwyd cacen arbennig, a oedd wedi ei pharatoi gan Mrs Margaret Bevan, gan un o ddisgyblion hynaf yr Ysgol, Mrs Beti Morris.

Braf oedd gweld yr Ysgol yn llawn. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i ymuno â ni. Fe fydd yn ddiwrnod a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer.

Dweud eich dweud