Gêm i godi gobeithion

Aberteifi 7 – 23 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Owain-Bonzall-Aberteifi

Sgoriwr ail gais Aberaeron – Owain Bonzall

Wedi i Aberteifi drechu Tycroes, sydd ar frig y gynghrair ynghynt yn y tymor, roedd disgwyl gêm anodd i lawr ar gae chwarae Brenin Siôr 5ed dydd Sadwrn diwetha’. NId oedd rhaid pryderu gan i Aberaeron ennill y gêm yn gyfforddus.

Aberteifi yn methu torri trwy’r amddiffyn

Gwnaeth y tîm cartref ddechrau’r gêm gyda’r bwriad i ymosod trwy ledu’r bêl ond mi wnaeth amddiffyn yr ymwelwyr eu cadw yn hanner eu hunain am ran helaeth o’r hanner cyntaf. Roedd brwdfrydedd Aberteifi yn amlwg ond o’r herwydd, mi wnaethant ormod o gamgymeriadau a chael eu gorfodi i droseddu yn gyson. Mi wnaeth Aberaeron gymryd mantais o hyn a bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb yn gynnar yn y gêm.

Cadw’r tîm cartref yn hanner eu hunain

Gyda’r gwynt ar eu cefnau, mi gadwodd y maswr, Steffan Rees a’r canolwr, Rhodri Jenkins Aberteifi yn ddwfn yn hanner eu hunain gyda chicio celfydd at y corneli gan dawelu bloedd y nifer fawr o gefnogwyr Aberteifi yn yr eisteddle. Roedd pac Aberaeron hefyd yn drech na’i gwrthwynebwyr gyda seren y gêm, Ceri Davies a’r wythwr, Will James yn croesi’r llinell fantais yn gyson.

Rhwystredigaeth

Fel â’r gêm yn ei blaen, roedd chwaraewyr Aberteifi yn teimlo’n fwy rhwystredig ac yn cadw i droseddu. Canlyniad i un o’r troseddau hyn oedd i’r capten, Morgan Llewelyn gymryd y bêl yn gloi a thorri trwy’r amddiffyn a danfon y bêl drwy’r dwylo at Mathew Harries ar yr asgell i sgorio yn y cornel. Llwyddodd Rhodri Jenkins i gicio’r trosiad anodd o’r ystlys. Gwnaeth Rhodri gicio cic gosb arall cyn hanner amser i osod y sgôr yn 0 – 16.

Yr un drefn

Er eu bod yn gwynebu’r gwynt yn yr ail hanner, yr un fu’r drefn gyda’r meddiant a thiriogaeth yn ffafrio Aberaeron. Bu eu disgyblaeth hefyd yn dipyn gwell yn y gêm hon gan chwarae hanner awr cyn troseddu, er i’r dyfarnwr fod yn llym iawn ag yn cosbi unrhyw drosedd.

Cais i’r bachwr

Bu Aberaeron yn bygwth lein Aberteifi eto ond methu torri trwyddo oedd eu hanes ac fe ddaeth Ceri Davies yn agos yn dilyn rhediad cryf. Dyfarnwyd cic gosb arall yn erbyn Aberteifi ac yn dilyn hyrddiad o’r llinell 5 metr, croesodd y bachwr, Owain Bonzall am ail gais Aberaeron. Ychwanegodd Rhodri Jenkins y ddau bwynt am y trosiad yn erbyn y gwynt ag yn agos i’r ystlys.

Daeth Aberteifi yn ôl gyda chais gysur tua diwedd y gêm. Gwnaeth y maswr, Jac Davies dorri trwy’r amddiffyn i sgorio cais cafodd ei throsi gan Shaun Leonard.

Yn ôl i Dycores

Mae’n siŵr bod hyder y Gwylanod wedi codi ar ôl y fuddugoliaeth hon. Mi fyddant yn hyderus i fynd yn ôl i Dycroes y Sadwrn nesa’ i geisio ennill trydedd rownd Cwpan Adran 3 Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r golled yn Nhycores ynghynt yn y tymor yn dal yn fyw yn y cof – gêm oedd Aberaeron wedi ei hennill  tan y pum munud ola’. Gobeithio bydd ’na lu o gefnogwyr y Gwylanod yn teithio i gyrion Rhydaman dydd Sadwrn i gefnogi’r tîm.

Dweud eich dweud