Y Ffactor Tractor yn Mynd â’r Wobr

Cyngor Bro’n cydnabod blynyddoedd o godi arian mawr

Euros Lewis
gan Euros Lewis

Yn flynyddol bellach mae Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad yn cyflwyno plac Gwobr y Gymuned i unigolyn neu grŵp sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Eleni, cyflwynwyd y plac i drefnwyr Taith Tractors Dyffyn Aeron sef, Elgan Bryngwyn, Aled Plas, Eilir Dremddu a Jonathan Deri Goch.

Wrth gyflwyno’r plac dywedodd y Cadeirydd, Melinda Williams, bod hi’n syndod beth sy’n gallu digwydd pan fydd criw o fois yn dod at ei gilydd dros beint yn y dafarn!  Yn achos y pedwar hyn trefnu taith tractors i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru o’dd hi nôl yn 2013.  Siawns y noson honno bydde nhw wedi meddwl bydden nhw dal wrthi 11 mlynedd yn ddiweddarach ac wedi codi miloedd ar filoedd o bunnoedd ar gyfer achosion da.

Bob blwyddyn, ynghyd â’r Ambiwlans Awyr mae’r criw yn dewis elusennau lleol neu elusennau sydd yn agos at eu calonnau am resymau personol e.e. Ysbyty Plant Arch Noa, Tŷ Hafan, Arennau Cymru ac Unedau Cemotherapi Bronglais a Glangwili.   Roedd taith 2023 yn un arbennig hefyd wrth iddyn nhw godi arian at y British Heart Foundation er cof am Dafydd, WD Lewis.

Ma’ gweld cannoedd o dractors yn mynd trwy’r pentrefi ar ddydd Sul ola’ mis Ebrill yn dipyn o sioe yn ei hunan ond pan y’ch chi’n ‘styried bod y tractors wedi bod yn gyfrifol am godi dros £90,000 dros y ddegawd ddiwethaf mae’n gamp anhygoel.

Wrth eu llongyfarch dywedodd Melinda “Dwi’n siwr bydde’r bois eisiau diolch i bob un tractor sy’ wedi troi mas dros y blynyddoedd, ond heno ein braint ni yw gallu diolch i Elgan, Aled, Eilir a Jonathan am eu gwaith a’u hangerdd wrth drefnu’r teithiau flwyddyn ar ôl blwyddyn.   Mae’n siwr bod lot fawr o bobol wedi elwa o’ch gwaith caled.”

Wrth dderbyn y plac diolchodd Elgan am y wobr gan ddweud eu bod yn ddiolchgar iawn i’r Cyngor am yr anrhydedd.  Soniodd bod y gwaith o drefnu’r daith nesa wedi dechrau’n barod gan nodi hefyd bod yn agos i £16,000 wedi ei godi yn dilyn y daith ym mis Ebrill eleni.

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i daith 2025 a thu hwnt!

Dweud eich dweud