Rhaid camu yn ôl cyn camu ymlaen!

Ysgol Ciliau Parc 1876-2024

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones
467781739_568932749366051
463215060_2135509446910707

Ar ddydd Sul 15fed Rhagfyr, fe ymgasglodd cyn ddisgyblion o’r ysgol leol ynghyd i hel atgofion, sgwrsio gyda hen ffrindiau, ac i ymfalchio yng nghyfraniad yr ysgol arbennig yma i bentref Ciliau Aeron. Ar ôl bron i 150 o flynyddoedd o addysgu plant cyn iddynt symud ymlaen i’r ysgol uwchradd, mae’r ysgol erbyn hyn wedi cau’r drws am y tro olaf, cyn i’r plant a’r athrawon uno gyda ysgolion Felinfach a Dihewyd mewn ysgol newydd sbon ar dir newydd yn Felinfach. Mi fydd Ysgol Dyffryn Aeron yn ddechreuad newydd i bawb, ond rhaid camu yn ôl gyntaf cyn medru camu ymlaen gydag addysg yn ail chwarter yr unfed ganrif ar hugain. Ac felly bu hi, wrth i ddrysau Ysgol Ciliau Parc agor i gyn ddisgyblion am y tro olaf i ymweld a’r adeilad fu’n gymaint o ran ieuenctid y sawl â gafodd y pleser o’i mynychu.

Bu’r gwaith o gynllunio arddangosfa o luniau ac hanesion yr ysgol yn un hynod o drylwyr gan y staff presennol, ac ‘rwy’n siŵr fod sawl un o’r disgyblion wedi helpu allan hefyd wrth baratoi am ymweliad y ‘plant hŷn’ yma ar ddiwrnod i’w gofio. Fe ohiriwyd y trefniant gwreiddiol oherwydd y storm dychrynllyd wnaeth achosi sut gymaint o ddifrod ar draws y wlad y Sadwrn cynt, ac felly fe ail drefnwyd y cyfan erbyn Sul diwethaf.  yddiad, oedd yn fy siwtio i i’r dim i fod yn onest, gan y byddwn i wedi methu ymweld ar y Sadwrn fu rhaid gohirio.Beth ydy wythnos ychwanegol ym myd addysg dywedwch!

Agorodd drysau’r ysgol am 11.00 fore Sul, ac er fod i orffen erbyn tua 2.00 y prynhawn, ‘roedd rhai ohonnom dal yna tan i’r gloch ganu am y tro olaf am 3.30! Roedd y lluniau’n drefnus tu hwnt wrth i ni ymweld â’r gorffennol. ‘Roedd yna luniau yn mynd ‘nôl i’r dechrau’n deg ym 1876. Fel ymhob hanes tebyg, anodd yw hi i fedru enwi’r disgyblion yn y lluniau hynny, ond mae modd dod o hyd i enwau’r prif athrawon o’r cychwyn cyntaf, ynghyd a gweddill o’r athrawon o bosib. Ond erbyn tua diwedd y 1920au a’r 1930au, mae’r enwau yn dechrau ymddangos. Yn aml iawn nid enwau llawn y disgybl fyddent, ond enw cyntaf y plentyn a’i cartref. John Bont yn hytrach na John Jones, fel enghraifft. Fy nhad gyda llaw. Lluniau du a gwyn wrth gwrs tan tua diwedd y 1950au, wedyn symud ymlaen yn gyflym i’r oes fodern lle medru’r cynhyrchu miloedd ar filoedd o luniau o bob math o weithgareddau yn ymweud â’r ysgol, heb anghofio am y lluniau swyddogol o’r disgyblion gyda’i athrawon mewn grŵp llawn.

Mae gan bawb ei atgof o’r oes o’r blaen, ac ‘rwy’n siŵr y diddordeb mwyaf gyda’r rhai fynychodd ar y diwrnod oedd gweld lluniau o’i hunain, ac hefyd eu perthnasau. A pham lai’n wir, achos dyna ydy bwriad arddangosfeydd o’r fath ta beth. Ond fel mae rhywun yn twrio fel petai, mae yna ddarganfyddiadau eraill yn ymddangos ac yn agor goleuni newydd ar y gorffennol. ‘Roedd diddordeb mawr gan bron bob un i’r gofrestrau o’r disgyblion ddechreuodd yng Nghiliau Parc, ac hefyd yr un oedd yn dynodi eu bod wedi gadael. Pawb yn chwilio am ei enw ac am ei rif. Rhif 1340 gefais i pan yn troedio mewn drwy gatiau’r ysgol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1975. Fe ganwyd yr hen gloch sawl gwaith yn ystod y prynhawn, ond ni fu raid i neb ddychwelyd i’w desgau yn go gyflym, na chwaith bwrw am adref ar ddiwedd y dydd. Er, ‘rwyn siŵr fod sawl un wedi’i atgoffa eu hunain fod amser chwarae wedi cychwyn. Fe wnaeth clywed y gloch codi hiraeth arnaf i’n sicr, a llawer i un arall mae’n siŵr.

Fe dynnodd sawl peth fy sylw i wrth ymweld â thu fewn yr ysgol am y tro cyntaf ers i mi adael ym mis Gorffennaf 1981. I blentyn rhwng 5 ac 11 mlwydd oed, ‘roedd yr ystafelloedd yn anferth o faint! Ond rhai digon bach ydynt mewn gwirionedd. Fe dynnodd sawl ymwelydd fu’n gyn-ddisgybl sylw at hynny. Yn fy nyddiau i doedd yna ddim ‘tai’ yn cystadlu mewn unrywfath o gystadleuthau fel canu, eisteddfodau nac yr amrywiaeth o chwaraeon a gynnigwyd yn ddiweddarach. Felly, braf oedd darganfod fod Aeron, Mydr a Nantfaen yn bodoli i’r plant cyn iddynt ddarganfod Tyglyn, Tanyfron a Phortland – os yn symud ymlaen i Ysgol Gyfun Aberaeron er enghraifft. ‘Roedd darganfod ambell i beth nag oeddwn wedi ei gweld o’r blaen yn rhoi gwefr mawr i mi. Cloc oedd yn dangos llun o’r ysgol yn mynd ‘nôl i 1976 yn esiampl dda, ac hefyd yn fwy trist o bosib, rhestr o’r milwyr fu’n mynychu’r ysgol aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae angen ymchwil pellach i ddarganfod enwau cartrefi’r dewrion yna.

Mae’r iard yn sicr wedi newid dipyn dros y degawdau, a’r ganrif a hanner gyfan i ddweud y gwir. Wyddwn i ddim fod yna ychydig o borfa o flaen y brif wal tu flaen yr adeilad un adeg. Mae’r coed oedd yn fan chwarae i ni wrth greu tŷ bach dal yn ei hunfan. Sôn am ‘dai bach’, ryw hen floc tu allan oedd gyda ni. ‘Rwyn cofio’r stepen neu ddwy oedd yn arwain tuag at y cantîn tu ôl i’r brif adeilad, ond ni allaf fod yn siwr beth sydd i fyny yna erbyn hyn. Ystafell wersi bosib.

Y newid mwyaf welais i, ac fe fyddai hynny’n wir i bawb fynychodd cyn 1982, oedd fod tŷ’r ysgol sydd ynghlwm wedi ei droi’n ddosbarthiadau, swyddfa a thai bach tu fewn. Cartref y prifathro a’i deulu fyddai hwn yn yr hen ddyddiau. Byddai gatiau’r prif fynediad ddim yn yr un man chwaith cyn 1976. ‘Rwy’n ei cofio lawr yn y cornel yn agosach i’r brif hewl, ond ychydig iawn o gof sydd gennym o fynd trwyddi, heblaw am rhuthro un tro i weld Jac Slic a’i geffyl, ei gert a’i gi yn pasio heibio i alw gyda trigolion y pentref i werthu nwyddau. Ie, hel atgofion oedd dydd Sul wrth gamu’n feddyliol ‘nôl i’r gorffennol. Atgofion cymysg ‘rwyn siwr, ond pawb a’i stori o’i profiad o fynychu’r ysgol orau yn y byd!! Pwy all anghofio derbyn ambell i bnawn Gwener bant, os yn blantos bach da, i wylio’r prifathro yn gwneud plu pysgota. Sôn am “The 3 R’s and F! Reading, ‘Riting, ‘Rithmatic & Fishing!”  Atgofion!

Beth oedd rheswm agor ysgol yng Nghiliau Aeron yn y lle cyntaf?  Y Ddeddf Addysg 1870, a’i luniwyd gan yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, William Forster, fu’n gyfrifol am gynnig, a sicrhau, addysg i bob plentyn ar ôl degawdau o ddiffygion yn y gyfundrefn addysg. Fe ffurfiwyd byrddau arbennig i ymgymryd a’r baich o greu ysgolion newydd ar hyd a lled y wlad.

Fe adroddodd papur newydd ‘Y Dydd’ yn ei colofnau ar 27ain Fawrth 1874, “Y mae Pwyllgor o’r Cynghor Addysg wedi rhoddi gorchymyn i ffurfio Bwrdd Ysgol yn Llanfihangel Ystrad, sir Aberteifi. Bydd y Bwrdd yn cynwys, heblaw y plwyf uchod, blwyfi Llanerch-Aeron, Ciliau-Aeron, a Dihewid.”

Yn rhifyn 11eg Ebrill 1874 o’r ‘Aberystwyth Observer’, fe adroddwyd y canlynol.  “Ystrad School Board. – The Education Department made an order some time ago for the election of a School Board for the school district comprising the parishes of Llanfihangel Ystrad, Dihewid, Ciliau Ayron, and Llanerchayron. Four school rooms will be required in the district, there being at present not a single elementary school under inspection in either of the four parishes.” Mae’n amlwg fod Llanerchaeron yn blwyf ar ben ei hunan yr adeg yna, ond ni wyddwn am adeiladu ysgol ar wahan yno chwaith.

Yn ‘Y Tyst a’r Dydd’ o’r 21ain Awst 1874, fe gofnodir y darn hynod o ddiddorol yma.

“Yr ydym yn gweled Ciliau Aeron. Mae rhyw beth fan yma yn anwyl i mi; mae’r teimlad yn awr yn rhy gysygredig i ddyweyd na’i ddadblygu. Wel, beth ydyw ystyr Ciliau Aeron – Cilfach o flodau:-

Ciliau Aeron dirion deg,

Ei chwenych ydwyf fi,

A’i holl ddolydd chweg

Sy’n lloni’m calon i.

Yn Ciliau Aeron, mewn man ffrwythlawn a phrydferth, mae Park Bontfaen, Llanayron Deer Park, helaeth, wedi gysegru i rifedi o geirw gwyllt.  Y mae y muriau yn wneuthuredig o feini hen a diweddar.  Ymdrechant gael Bwrdd Ysgol yn awr, ac y maent wedi cytuno. Bwriedir adeiladu hwn ger croesffordd Neuadd-ddu, yn y Park hwn.”

O dan pennawd ‘Llanfihangel Ystrad’ o’r ‘Cambrian News’ 25ain Mehefin 1875, bu sôn am gyfarfod Bwrdd yr Ysgol a ddatgelodd y canlynol.

“The Clerk read various letters sent and received by him relating to the conveyance of sites, &c. – The tenders sent in for building the Ciliau Park School were opened, and the contract was given to Mr Thomas Davies, Compton House, Aberaeron, whose tender was £710.  It is to be regretted that the buildings now being built in this district are not progressing as rapidly as was expected, owing to unforeseen obstacles in the way of the Board and contractors.”

Awn ymlaen at rifyn 30ain Gorffennaf 1875 o’r ‘Tyst a’r Dydd,’ unwaith eto, wrth i ‘Min yr Eingion’ ddatgan yn ei ddarn, “Y mae ysgol Fyrddiol Ciliau Aeron ar waith, yn cael ei hadeiladu gan Mr. Davies o Aberayron. Yr wyf yn meddwl eu bod wedi cael lle rhagorol o gyfleus gerllaw croesffordd Neuadd-ddu, mewn rhan o’r parc yr ydwyf wedi son am dano. Perchen y tir yn bresennol yw y foneddiges barchus, Mrs. Lewis, Llanayron. Yr oedd plant Ciliau Ayron yn cael cam o eisieu dysgeidiaeth.”

Ar ôl i’r ysgol newydd agor yn swyddogol ar 9fed Hydref 1876, fe ymfalchiodd y ‘Western Mail’ 28ain Rhagfyr 1876 yn ei pennawd ‘Vale of Aeron’:-

“Ciliau Park Board School. – A popular entertainment, of a varied and interesting character, was held for the first time in the above new and commodious schoolroom on Christmas night.”

A dyma ni wedi cyrraedd 2024, ac heblaw am ddodrefn a chynnwys eraill sydd ym mherchnogiaeth yr ysgol, go wâg fydd muriau hen Ysgol Ciliau Parc ar noson Nadolig eleni. Mae’n ddiwedd taith. Mae’n ddiwedd cyfnod. Mae’n hoelen arall mewn arch pentref bach o bosib, ond mae hefyd yn rhoi cyfle newydd – mewn adeilad newydd – i blant heddiw ac y dyfodol i dderbyn addysg mewn adeilad fydd yn ateb gofynion y ganrif yma. Bydd yna ddim “cam o eisieu dysgydiaeth” yn sicr o uno Felinfach, Dihewyd a Chiliau Parc at ei gilydd i greu un ysgol ‘fawr’ i’r rhai ‘bach’, ond fydd colled ar ôl y tri yn ei ffordd fach ei hunain. Onid calon pentref yw ei hysgol. Ymlaen felly mae rhaid, ond gobeithio’n wir na fydd “Cilfach o flodau” yn tyfu’n wyllt ar dir yr ysgol bresennol, na chwaith ceirw yn brasgamu ar hyd yr iard fu gynt yn rhan o’r Parc, a boed i hen adeilad “Mr. Davies o Aberayron” fod mewn dwylo diogel wrth edrych i’r dyfodol.

Diolch i bawb fynychodd y digwyddiad dydd Sul, ond yn fwy na hynny, diolch enfawr i’r trefnwyr ac i bawb gyfrannodd drwy roddi neu benthyg lluniau ac ati i’r arddangosfa. Ond mae’r diolch mwyaf i chi – plant yr ysgol – o 1876 hyd at 2024!  Ynghyd a’r holl athrawon, fe chwaraeasoch chi eich rhan yn fwy na neb.

Pob hwyl i Ysgol Dyffryn Aeron yn ei “new and commodious schoolroom.”

Dweud eich dweud