Bydd rhaid edrych ‘nôl cyn edrych ymlaen efo’r darn arbennig yma o hanes cynnar rygbi yn Aberaeron. Os gofiwch chi, fe wnes i adrodd am hanes y gêm gyntaf un i’w chymeryd lle ar ddechrau 1907 yn y rhan gyntaf tua mis ‘nôl. Yn erbyn clwb profiadol Llambed oedd hon, ac i atgoffa pawb, dyma’r pymtheg yn ôl papur newydd y ‘Welsh Gazette’ gynrychiolodd ‘Y Gwylanod’ cynnar yma, wrth iddynt golli o 8-3 ar y Cae Sgwâr:-
Dr. D. M. Davies; J. Seymour Rees, Evans, T. L. Jones, W. H. Evans, J. Davies, W. Pugh; W. A. Jones, D. G. Davies, T. O. Griffiths, Henry Lloyn, H. L. Pugh, Milton Davies, Tommy Davies, B.Sc., a J. Jones. Dyfarnwr, Mr. G. Edwin Davies, Llanon House.
Rhaid cofio fod gan y pymtheg droediodd y Cae Sgŵar i chwarae’r gêm gyntefig yma ddim profiad o gwbl o sut i’w chwarae. Pêl-droedwyr oeddent, ac ‘roedd gwynebu tîm Llambed yn dipyn o her iddynt. Ond fel y cofir yn y darn blaenorol, fe chwaraeodd y newydd ddyfodiaid yn dda a chadw sgôr y gyrthwynebwyr lleol lawr i ond pum pwynt rhyngddynt.
Dr. D. M. Davies
Fe wnai ddechrau efo Dr. D. M. Davies. Yn hanu o deulu enwog Tanyfron Villa, un o 16 o blant y llawfeddyg, Dr. John Davies a’i wraig, Elizabeth, oedd Dr. David Morgan Davies. Efo 11 ohonynt yn fechgyn, bu sawl achlysur lle fu’r brodyr yn chwarae fel un tîm mewn gemau cyfeillgar ar y cae pêl-droed. Fe ymgartrefodd yng nghartref ei rieni yn Aberaeron, a bu’n weithgar iawn yn y dre wrth fod yn gynghorydd sir dros y Ceidadwyr, ynad heddwch ac henadur. Bu’n flaenllaw yn sefydlu Ysbyty’r Bwthyn yn Heol y Tywysog ac fu ar fwrdd amryw o bwyllgorau yn ystod ei oes. Bu farw ond yn 59 oed ym 1939, a’i gladdu’n Eglwys Dewi Sant, Henfynyw.
Milton Davies
‘Roedd Isaac Milton Davies yn bedair mlynedd yn ifancach na’i frawd. Fe aeth yntau hefyd ymlaen i’r un proffesiwn fel meddyg. Fe grwydrodd Dr. Milton Davies allan o’i sir enedigol a sefydlu ei hun yn ardal Trefdraeth, Sir Benfro. Fe dreiliodd ei oes lawr yn yr ardal hyfryd yma o Gymru, lle bu farw yn 82 mlwydd oed ym 1967. Fe’i gladdwyd ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Trefdraeth.
Tommy Davies, B.Sc.,
Un o frodyr hŷn yr uchod oedd Thomas Davies. Fe ddilynodd ef drywydd ychydig yn wahanol i’w dad a’i frodyr, wrth ddilyn cwrs gwyddoniaeth. Ychydig iawn wyddwn am y brawd yma heblaw am y ffaith iddo fod yn athro gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd yn Tiverton, Swydd Dyfnaint, ym 1911 ac ei fod yn cartrefi yng Nghaerdydd yn ystod cyfnod marwolaeth ei frawd ym 1939. Fe groesawir fwy o wybodaeth amdano.
W. Pugh
Nid y brodyr Davies oedd yr unig frodyr i gynrychioli Aberaeron ar y dydd. Fe wnai ddechrau efo’r henaf o deulu’r Pugh fu’n cartrefi yn Paris House, 8 Sgwâr Alban. William Pugh oedd ei enw llawn, ac yn fab i’r dilledydd, Thomas Pugh, a’i wraig, Mary. Cafodd addysg yn ysgol enwog Llanymddyfri, cyn derbyn yr alwad i’r weinidogaeth. Bu’n ficer plwyf yn Swydd Henffordd, ond ‘nôl am Aberaeron ddaeth i ymddeol, lle bu farw ym 1962, a’i gladdu’n Henfynyw. Fe gredir taw’r Parchedig William Pugh sgoriodd cais hanesyddol gyntaf Aberaeron ar unrywfath o gae rygbi.
W. L. Pugh
Eto o Paris House, dyma brawd infancach William Pugh. Ei enw llawn oedd Henry Loyn Pugh. Efo Loyn fel enw canol, dyma gyfeiriad amlwg ar ochr ei fam y berthynas agos at deulu enwog Loyn o’r dre. Gweithio yn siop ei dad oedd ei alwedigaeth, ond erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd efo’r South Wales Borderers. Yn ofnadwy o drist, fe gafodd ei ladd ar faes y gad pan fu farw mewn ysbyty wrth ymladd ar y Somme ym 1916. Ond yn 28ain mlwydd oed, fe’i gladdwyd ym mynwent Heilly Station, Méricourt-l’Abbé, yng Nghogledd Ffrainc.
T. L. Jones
Cyfnod byr ar y cae gafodd T. L. Jones mae’n debyg yn ôl adroddiad y ‘Welsh Gazette.’ Yn un o’r tri-chwarteri, fe’i orfodwyd iddo ddod bant ar ôl anaf gan adael Aberaeron efo ond 14 dyn i wynebu Llambed am weddill y gêm. ‘Doedd dim clwstwr o chwaraewyr ar y fainc i ddod arno y dyddiau hynny oherwydd ni welwyd eilyddio yn y gêm, am anafiadau’n unig i ddechrau, tan 1968. Thomas Lewis Jones oedd ei enw llawn, ac yn fab i Thomas ac Ann Jones, Bronaeron (Meillionen gynt), Heol Llyswen. Fe gollodd ei dad, oedd yn gapten llong, ar y môr yn ifanc, ac fe aeth yntau ymlaen i fyd meddygaeth. Bu’n feddyg yn ardal Abertawe ar ôl graddio ond bu farw’r Dr. Thomas Lewis Jones ond yn 51 mlwydd oed ym 1936, a’i gladdu efo’i rieni ym mynwent Henfynyw. Gan taw pêl-droed oedd ei gêm mewn gwirionedd fel gweddill y tîm, ‘roedd yn dalentog yn y bêl gron ac hefyd criced.
J. Jones
Brawd ifancach Thomas Lewis Jones oedd Jordan Jones – neu John Jordan Jones, i roddi ei enw llawn iddo. Am Lundain anelodd i agor siop ddilledydd yn Wembley. Bu’n aelod blaenllaw o gymdeithasau gwahanol ymysg ei gyd-frodorion o Geredigion yn y brifddinas, ond ychydig wedi terfyn yr Ail Ryfel Byd, fe ymddeolodd o’r fusnes a symud ‘nôl i’w wreiddiau yn Aberaeron. Bu farw’n Cei Newydd ym 1969, efo yntau wedi’i gladdu hefyd yn Henfynyw, efo’i wraig Martha Linda Jones, a gollodd tair blynedd ynghynt.
Henry Lloyn
Y peth cyntaf dylwn esbonio fan hyn ydy camsillafu’r ‘Welsh Gazette’ yn y rhestr o’r chwaraewyr. Un ‘L’ yn ormod, gan taw Henry Loyn oedd ei enw. Bu ei dad, Evan Loyn, yn dafarnwr ac yn gwerthu glo cyn cymryd drosodd oddiwrth ei dad yntau fel perchennog siop haearnwerthwyr yn 8 Heol Farchnad. Ar ôl marwolaeth ei dad, fe gymerodd ei fam, Hannah, drosodd ac ychwanegu adran lestri ‘china’ i’r fenter. Fe ddilynodd Henry ei fam fel perchennog wedi’i dyddiau hithau. Bu’n rhedeg y fusnes efo’i chwiorydd tan ei farwolaeth sydyn ym 1942, ac yntau’n 58 mlwydd oed. Fe’i gladdwyd yn ogystal ym mynwent Henfynyw. Cefndiroedd iddo oedd y ddau frawd fu’n gyd-chwarae efo yn erbyn Llambed, sef William Pugh ac Henry Loyn Pugh. Wrth gwrs, am bryd o fwyd a diod fyddech yn galw mewn i 8 Heol Farchnad erbyn heddiw.
W. A. Jones
Mab William Morris Jones, a’i wraig, Emma, perchnogion siop ‘Home & Colonial Stores,’ 2 Sgwâr Alban, oedd William Arthur Jones. Siop groser a thipyn o bopeth oedd yno’r pryd hynny, ond ‘rwyn siwr fyddai digonedd o drigolion Aberaeron a’r cylch yn galw yno i brynu moddion pan yn dioddef o salwch – yn union fel fyddech y dyddiau yma. Un o Gaerfarddon, Swydd Gwlad-yr-Haf, oedd ei fam, Emma Pitt, yn wreiddiol. Helpu allan mewn siop groser ydoedd yn ôl cyfrifiad 1911, ac yn byw efo’i frawd-yng-nghyfraith a’i deulu yn 23 Plasturton Avenue, Caerdydd. Theophilus Harry Thomas oedd enw ei frawd-yng-nghyfraith, wnaeth briodi ei chwaer, Annie Maude Jones. Am wn i, dyma’r unig gysylltiad blaenorol o rygbi efo un o’r chwaraewyr. Ym 1895, ac yntau ond yn 19 mlwydd oed, ‘roedd Theophilus Thomas yn ysgrifennydd a chapten ar Glwb Rygbi Cilfynydd wrth iddo amglygu ei hun fel safle’r hanerwr. Bu Theophilus Thomas hefyd yn olygydd papur newydd blaenllaw Caerdydd, yr Evening Express. Ond fy nghwestiwn i ydy beth fu hanes William Arthur Jones wedi hyn?
W. H. Evans
Mab i un adnabyddus arall o fewn y dre fu’n chwarae oedd William Hamilton Evans, sef mab i brif feistr Y Wyrcws – Griffith Evans. Un o deulu fferm Cilfforch oedd ei dad, a thra oedd yntau’n gyflogedig efo Bwrdd y Gwarcheidwaid, ‘roedd ei fam, Jane, yn fetron yn yr adeilad fu’n nodweddiadol iawn yn hanes Aberaeron cyn ei ddymchwel yn ddi-seremoni! Does dim angen i mi ddweud mwy ble leolid ar hyd Heol y Tywysog. Pan fu farw ei dad ym 1909, ‘roedd Hamilton Evans eisioes wedi cartrefi yn ardal Southall o Lundain. Dim ond misoedd cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan, ‘roedd ei fam yng nghofal Y Wyrcws, ond ‘roedd cynlluniau ar y gweill erbyn hynny i’w droi’n ysbyty i’r gymuned. Ar y pwynt yma, ‘dwi ddim yn hollol siŵr beth ddaeth o Hamilton Evans, ond mae yna bosiblrwydd ei fod wedi aros yn Llundain a marw yn y ddinas ym 1956 yn 69 mlwydd oed. Ond croesawyd gwybodaeth cadarnach o hyn.
T. O. Griffiths
Ni fu’n gapten ar y cae rygbi, na phêl-droed, o’r hyn a wyddwn i, ond capten llong oedd Thomas Owen Griffiths, fel ei dad, John Griffiths, gynt. Riversdale, Heol Llyswen, oedd cartref y teulu, ac yn 1913 fe briododd efo Sarah Mary Pugh – sef chwaer i William a Henry Loyn Pugh, Paris House, oedd yn gyd-chwaraewyr iddo yn y gêm ym 1907. Fel mater personol i mi, fe gymerwyd ei frawd, Rees Aeron Griffiths, ond adnybyddir fel Rhys, yn garcharor rhyfel yn ninas Berlin ar ddechrau’r ymladd ym 1914. Efo yntau yn garcharor sifil, fe wariodd weddill y rhyfel mewn camp o’r enw Ruhleben ar ochr orllewinol o’r ddinas. Cymro Cymraeg arall o ardal Mydroilyn fu’n garcharor yno oedd David Thomas, Sarnau Gwynion. ‘Roedd yntau’n frawd i fy mamgu, ond bu farw yn y camp ym mis Mai 1917, efo Rhys yn gwmpeini iddo yn ystod yr anhwylder a gymerodd ei fywyd. Dramor fu farw Rhys ei hunan yn y pen draw, ac hynny yn Antwerp, Gwlad Belg, ym 1929. Fe ymddeolodd Capten Griffiths ‘nôl yn ei dre enedigol wedi ei gyfnod ar y môr, ac fu’n flaenllaw yn sefydlu Clwb Bowlio Aberaeron ym 1930. Bu farw’n 77 mlwydd oed ym 1952, ac fe’i gladdwyd yn Henfynyw.
D. G. Davies
Er i David Garfield Davies ei eni a’i fagu yn Bodryddan, drws nesaf i hen Gapel y Bedyddwyr, yn 21 Ffordd y Gogledd, offeiriad yn yr Eglwys yn Lloegr fu ei dynged alwedigaeth. Yn union fel T. O. Griffiths, capten llong oedd ei dad yntau hefyd. David Davies oedd enw hwnnw, ac enw ei fam oedd Eleanor. Gadael Cymru wnaeth y mab a dilyn llwybr tipyn gwahanol, lle bu’n gweinidogaethu yn ardal Hexham, Northumberland, ac hefyd Ormskirk, llai na phymtheg milltir i’r gogledd o Lerpwl. Bu farw’r Parchedig Garfield Davies yn 85 mlwydd oed yn Ormskirk ym 1972.
Evans
Er fod y ‘Welsh Gazette’ ond yn ei enwi yn ôl ei gyfenw, fe enwodd y ‘Cambrian News’ ‘Evans’ fel Gabriel Evans. Tri-chwarterwr â gafodd gêm dda iawn mae’n debyg. William Gabriel Evans oedd ei enw llawn, ac yn hanu o Croesdy, Pennant. Hwn oedd yr unig chwaraewr i ymddangos i Aberaeron nag oedd yn byw yng nghyffuniau’r dre ei hun. ‘Roedd yn fyfyriwr diwynyddol yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, pan gynhalwyd y gêm yma, a buan gafodd ei urddo’n Barchedig yng Nghadeirlan Bangor. Ym Mrymbo, ger Wrecsam, sefydlodd ei hun yn gyntaf, cyn symud ymlaen i Ddinbych, Cerrigydrudion a’r Bala. Fe urddwyd yn Ganon yn Eglwys Gadeirol Llanelwy, ac fu’n byw am flynyddoedd yn Nheganwy. Bu farw’n 92 mlwydd oed yng nghartref ei ferch yn Tunbridge Wells ym 1975 – ond dwy flynedd cyn sefydlu clwb parhaol yn Aberaeron. Fe’i gladdwyd yn yr Eglwys leol yn Tunbridge Wells.
J. Davies
O’r holl chwaraewyr ymddangodd i Aberaeron yn erbyn Llambed, J. Davies yw’r unig un sydd wedi fy nhrechu lle mae ei enw llawn a’i gyfeiriad yn y cwestiwn. Mwy na thebyg taw Jack Davies ydoedd, a fu’n chwarae pêl-droed i Aberaeron yn erbyn Llanybydder ychydig wythnosau wedyn. Ond gan fod yr enw ‘Jack’ yn tarddu o’r enw John, mae’r ymchwil llawer yn anoddach i sicrhau pwy yn union oedd y chwaraewr arbennig yma. Mae yna bosiblrwydd taw brawd y dyfarnwr ydoedd, ond mae’n anodd dros ben i brofi hynny. Os taw, mi fyddai John Bowen Davies yn 36 mlwydd oed erbyn dyddiad y gêm ac yn byw oddicartref ta beth, ac felly dyna pam mae gen i amheuaeth taw fe ydyw. Os oes rywun yn gwybod, rhowch wybod i mi.
J. Seymour Rees
‘Rwyf yn gadael hanes J. Seymour Rees allan yn fwriadol yn y darn yma, gan iddo chwarae i’r gwrthwynebwyr yn yr ail gêm rygbi gymerodd lle yn Aberaeron. Felly, fydd fwy o’i hanes ef yn y darn nesaf.
Mr. G. Edwin Davies, Llanon House (Dyfarnwr)
George Edwin Davies, y dyfarnwr, yw’r hawddaf ohonynt i gyd i ddod o hyd i gyfeiriad, gan fod y ‘Welsh Gazette’ yn dynodi hynny’n barod. Adeilad amlwg yng nghanol y dre ydy 4 Sgwâr Alban. Masnachwr cyffredinol oedd ei dad, David J. Davies. Ar ddechrau Rhyfel y Boer, fe ymunodd efo’r Heddlu’r Ceffylau y Prydeinwyr yn Ne Affrica ac fu’n ymladd efo’r Cyrnol Robert Baden-Powell yng nghwarchae Mafeking rhwng 1899 a 1900. Fe ddychwelodd adre ac fe briododd Mary Hannah Davies, merch y Rhingyll Heddlu yn Aberaeron. Heblaw ei fod yn borthor ym 1911, ni wyddwn am ei alwedigaeth am weddill ei oes, ond erbyn diwedd ei oes ‘roedd y ddau’n sicr wedi symud i Swydd Surrey. Bu farw’r dyfarnwr yn 66 mlwydd oed ar ddechrau mis Chwefror 1942 a’i gladdu’n Eglwys St. John, Woking.
Yn y rhan nesaf byddaf yn dilyn trywydd y gêm rygbi gyntaf i dîm yr ysgol ei chwarae ynddi.