Dyma adroddiad gan Arwyn Davies o’r gêm hon wnaeth ymddangos ar dudalen Facebook y clwb:
Daeth taith Aberaeron yng nghwpan Adran 3 URC i ben yng nghymal yr 16 olaf yn erbyn gwrthwynebwyr cyfarwydd ar ffurf Tycroes, cyd-gystadleuwyr am ddyrchafiad o Adran 3 y Gorllewin.Yn dilyn colled agos o 26-24 yn gynnar yn y tymor i gais munud olaf, roedd y gêm hon bron yn ddelwedd drych, gydag Aberaeron yn dod yn agos iawn at greu buddugoliaeth hwyr eu hunain ar ôl disgyn ymhell ar ei hôl hi yn ystod hanner cyntaf anniben gan yr ymwelwyr.Roedd anafiadau a diffyg argaeledd yn golygu bod y pymtheg a ddechreuodd i Aberaeron yn cynnwys 7 newid o’r tîm a gurodd Aberteifi bythefnos yn ôl (3 newid safle). Fel unigolion, nid oedd y chwaraewyr a ddaeth mewn yn gwanhau’r tîm, gan eu bod i gyd yn chwaraewyr profiadol yn fwy na gallu dal eu lle yn y tîm cyntaf, ond fe ddaeth y diffyg amser gêm gyda’i gilydd i’r amlwg yn ystod hanner cyntaf rhwystredig. Roedd y sgrym dan bwysau mawr, methwyd sawl tacl, a gwelwyd camgymeriadau trin, a hyn i gyd yn cyfuno i ganiatáu i Tycroes groesi’r llinell gais ddwywaith a chymryd blaenoriaeth sylweddol o 20-6 yn yr hanner cyntaf. Ciciodd y canolwr Rhodri Jenkins ei drydedd gic gosb gan ychwanegu at ddau ymgais lwyddiannus gynharach i leihau’r diffyg i 20-9 ar yr hanner.Gydag Aberaeron yn elwa o chwarae i lawr llethr bach, a gydag ychydig o fantais o’r gwynt yn yr ail hanner, roedd hi’n bwysig i’r ymwelwyr greu momentwm yn syth o’r ailgychwyn. Jenkins eto gafodd y pwyntiau hynny, gan roi hyder i’r cefnogwyr a deithiodd o Geredigion fod buddugoliaeth o fewn gafael.Fodd bynnag, arweiniodd cic gosb i’r gornel o Dycroes at linell a sgarmes symudol, a chais allweddol yn agos i’r gornel i wneud y sgôr yn 25-12 gyda 25 munud ar ôl i chwarae.Dyna’r tro diwethaf i’r tîm cartref gyrraedd yn agos i linell gais Aberaeron. Fe ddechreuodd y gleision chwarae yn fwy uniongyrchol, yn gyflymach a gyda phenderfyniad gan roi Tycroes dan bwysau sylweddol am weddill y gêm. Yn chwaraewr y gêm i’r gwylanod, roedd Ceri Davies yn ôl ei arfer yn amlwg gyda’r bêl yn ei ddwylo, fel yr oedd y capten Morgan Llywelyn a wnaeth nifer o rediadau twyllodrus yn ddwfn i diriogaeth Tycroes. Gyda 67 munud ar y cloc, arweiniodd y pwysau a’r hyrddiadau cryf i hanner y crysau duon at gais o safon uchel gan yr asgellwr a’r hyfforddwr-chwaraewr Dyfrig Dafis, a droswyd yn dda gan Jenkins, gan adael diffyg o 6 phwynt i’w oresgyn yn y 13 munud olaf. Rhoddodd y garfan gyfan perfformiad angerddol a phenderfynol yn y munudau olaf hynny, ond bu’r tîm cartref yn amddiffyn yn benderfynol, a phrin oeddent yn colli tacl. Bu’n rhaid iddynt fod ar eu gorau i wrthsefyll ymchwydd ymosodiadau gan Aberaeron. Ond roeddent yn ildio nifer o giciau cosb, a’r taclo weithiau’n croesi’r llinell o ran bod yn gyfreithlon, a wnaeth hyn arwain at gardiau melyn gan eu gadael â 13 dyn ar y cae yn hwyr yn y gêm. Er tegwch i’r tîm cartref fe lwyddon nhw i gadw’r ymwelwyr bant o’u llinell (modfeddi ar adegau) a nhw wnaeth groesawu’r chwiban olaf gyda chrin ryddhad. Mae Aberaeron bellach yn cael seibiant o dair wythnos, sy’n ddefnyddiol er mwyn galluogi nifer o chwaraewyr i wella o anafiadau, gan obeithio y bydd yr hyfforddwyr erbyn hynny yn medru dewis o garfan gwbl ffit eto. Cefneithin yw’r gwrthwynebwyr nesaf yn y Flwyddyn Newydd ar Gae Carwyn James. Mae’r canlyniad heddiw yn golygu y bydd y ffocws yn rhan gyntaf 2025 yn llwyr ar yrru tuag at ddyrchafiad.