Steff Castell yn sicrhau’r pwynt bonws

Aberaeron 24 – 5 Llandeilo

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Stefff-Castell-LlandeiloRhys Hafod

Steff Castell yn sgorio’r gais bwysig

Llandeilo-Richard-Francis

Richard Francis yn sicrhau’r bêl

Ryan-Llandeilo

Ryan Williams cyn ei anaf

Llandeilo-Dafydd

Dafydd Llewelyn yn sgorio’r drydedd cais

Heb chwarae adref ar Barc Drefach ers wyth wythnos ag heb gael gêm ers tair wythnos, bu tipyn o edrych ymlaen at yr ornest hon yn erbyn Llandeilo. Wedi ennill bant ar Gae William ynghynt yn y tymor, roedd y gobeithion am fuddugoliaeth yn uchel.

Er i’r sgorfwrdd awgrymu buddugoliaeth ddigon cyfforddus i’r Gwylanod, ni fu hon yn gêm hawdd iddynt. Roedd Llandeilo yn dipyn cryfach tîm y tro ’ma ag yn anlwcus iawn i fynd adre’n waglaw. Mi wnaethant frwydro’n gryf yn amddiffynnol gan hefyd ymosod ag ennill tiriogaeth drwy gydol y gêm. Heblaw am amddiffyn cadarn Aberaeron mi all Llandeilo fod wedi sgorio llawer mwy o bwyntiau.

Anaf difrifol i’r prop

Dechreuodd Aberaeron gyda digon o ysbryd gan roddi pwysau ar yr ymwelwyr. Roedd amddiffyn Llandeilo yn ddigon cadarn i wrthsefyll pob ymosodiad ag hefyd yn barod i redeg y bêl o bobman. Wrth i Aberaeron ennill sgrym ar linell 5 metr y gwrthwynebwyr, mi aeth yr hyfforddwr a’r prop, Ryan Williams i lawr gydag anaf difrifol i’w fraich. Wedi ail-drefnu’r rheng flaen, mi aeth Aberaeron yn eu blaen i sgorio cais pan groesodd yr wythwr, Will James y llinell trwy godi’r bêl o gefn y sgrarmes a brwydro trwy’r amddiffyn.

Llandeilo’n taro nôl

Cyfartal bu’r chwarae am y chwarter awr nesaf gyda’r diriogaeth yn cael ei rannu ond Llandeilo fu’r nesaf i sgorio. Mi dorrodd ei mewnwr trwy’r amddiffyn gan ennill tir ac wedi sawl cymal mi wnaethant greu dyn yn sbâr ar yr asgell i sgorio.

Cais wyrthiol

Aberaeron fu’n ymosod wedi ail ddechrau chwarae ond yn methu torri trwy amddiffyn yr ymwelwyr. Gweledigaeth y maswr Steff Rees wnaeth greu ail gais y tîm cartref. Mi ddanfonodd Steff gic groes tuag at yr asgell i’w chasglu gan yr asgellwr, Steff DJ Jones. Fel yr oedd yr asgellwr yn cael ei daclo dros y gwyngalch mi daflodd y bêl tu ôl i’w gefn yn wyrthiol i’w chasglu gan y cefnwr a chapten Aberaeron, Morgan Llewelyn i’w dal a chroesi am gais gydag un symudiad.

Er y gwynt cryf a thwyllodrus, bu’r canolwr, Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad o’r asgell. Tua diwedd yr hanner cynta’ bu Llandeilo yn anlwcus i beidio â dod a’r sgôr yn gyfartal. Ar ôl ennill lein yn ddwfn tu fewn i 22 Aberaeron mi wnaeth ei blaenasgellwr medrus dorri trwy’r amddiffyn a chroesi o dan  y pyst. Yn anffodus iddo ef mi osododd y bêl ar y llinell gwsg ac felly nid oedd y cais yn ddilys. Roedd yn gêm agos gydag Aberaeron ar y blaen o 12 – 5 ar yr egwyl.

Llandeilo’n hawlio’r meddiant a thiriogaeth

Gyda’r gwynt ar eu cefnau a chicio celfydd, mi wnaeth Llandeilo osod Aberaeron o dan bwysau am weddill y gêm. Rhaid canmol amddiffyn y tîm cartref am wrthsefyll nifer o ymosodiadau. Roedd y pac, yn enwedig Richard Francis yn yr ail reng ymhobman yn taclo bygythiadau cyson yr ymwelwyr. Rhaid canmol Will James, Bobby Jones, Bleddyn Thomas, Owain Bonsall ac Owain Wozencraft am gario’r bêl dros y llinell fantais ar yr adegau prin pan oedd y bêl ym meddiant Aberaeron.

Cais annisgwyl

Wedi bod yn amddiffyn am gyfnod hir, mi wnaeth Aberaeron dorri allan o hanner eu hunain trwy’r olwyr wedi iddynt ennill sgarmes. Dyma’r cyfnod gorau o chwarae gafwyd gan y tîm cartref drwy gydol y gêm wrth i’r chwarae fynd ymlaen yn ddwfn i 22 yr ymwelwyr gyda bron pob chwaraewr yn trafod y bêl.  Gwnaeth y blaenasgellwr, Steffan “Bwtch” Jones yn dda i dorri i mewn gyda’r bêl o’r asgell gan guro pedwar amddiffynnwr. Yn y diwedd roedd gan Aberaeron mantais mewn nifer ymhlith yr olwyr ac fe groesodd Dafydd Llewelyn am drydedd cais Aberaeron.

Diweddglo cyffrous gyda Steffan “Castell” Rees yn arwr

Prin fu ymweliadau Aberaeron ag hanner yr ymwelwyr wedi hyn ac mi wnaethant ddal ati i amddiffyn ymdrechion Llandeilo i groesi”r gwyngalch. Roedd angen cais arall ar y tîm cartref er mwyn sicrhau’r pwynt bonws a bu rhaid aros tan y chwarae olaf a’r meddiant gan Llandeilo cyn i’r maswr a seren y gêm, Steff “Castell” Rees rhyng-gipio’r bêl ar 22 ei hunan a rhedeg nerth ei draed i groesi o dan y pyst. Llwyddodd Rhodri Jenkins gyda”r trosiad i orffen y gêm.

Gyda safle Aberaeron yn drydydd yn y gynghrair, mi all y pwynt bonws fod yn bwysig ar ddiwedd y tymor. Bydd eu gêm nesaf ar Barc Drefach dydd Sadwrn nesa’ yn erbyn Hwlffordd, gyda’r Gwylanod yn chwarae adre’ yn erbyn Clwb Athletig Aberystwyth nôs Wener ’ma.

Dweud eich dweud