“O na fyddai’n haf o hyd, eistedd lawr a neud dim byd!”
Go brin fod y geiriau yna wedi cael eu clywed ers misoedd a misoedd yng Ngheredigion.
Pan gyrhaeddodd yr Eisteddfod dref Tregaron (a thref yw hi, gyda llaw, rhag ofn bo rhywun yn dal i amau), dwi’ ddim yn meddwl i fi weld cynifer o bobl ar gymaint o hast erioed!
Rhwng rhedeg a rasio i ragbrawf neu rag-wrandawiad, hast i fynd i ymarfer canu mewn côr neu barti llefaru neu gyflwyniad.
Hast i fynd i weld sioe, hast i weld cystadleuaeth neu hast i fynd i wirio (neu ddysgu) geiriau, hast i fynd i feirniadu, hast mynd i aduniad neu berfformio ar Lwyfan y Maes.
Hast i fynd i wisgo… Gwisg yr Orsedd / Het Haul / Crys polo parti fel-a-fel a chrys polo parti arall fel-a-fel-arall! Roedd hi gered ’da phawb.
Gobeithio bo pawb yn cymryd anadl a hoe nawr.
Medi ar y gorwel
Bydd hi gered eto ym mis Medi, gyda phawb sy’n ddeinamos diwylliant, pawb sy’n byw gwerthoedd cymdogaeth er mwyn ymwneud gyda’n gilydd, er mwyn creu gyda’n gilydd a dathlu’n ardaloedd, iaith a diwylliant.
Ges i a thîm arbennig Theatr Felinfach, y gweithlu a’r gwirfoddolwyr, eisteddfod i’w chofio. Yn ogystal â chefnogi Llwyfan Ni, llwyfan diwylliant ym mhentre Ceredigion, roedden ni hefyd yn gyfrifol am ddwy sioe, dau perfformiad pantomeim ym mhabell Theatr y Maes a pherfformiad yn y Pafiliwn gan CFFI Ceredigion.
Ffermwyr ifanc cŵl
Roedd yn fraint cael cyfarwyddo sioe CFFI Ceredigion, Maes G gyda dros 50 o aelodau brwd a gweithgar yn perfformio sgript a geiriau pwerus Dylan Iorwerth. Mae’r criw CFFI yma yn gŵl fel ciwcs – ond fe roeson nhw galon ac egni i’r perfformiad yn y pafiliwn ac roedd ymateb emosiynol y gynulleidfa fawr yn dyst i ymroddiad y criw a neges y sioe. Yn bersonol, rwy’n cytuno â Ben Lake, AS, a ddywedodd yn ei araith fel Llywydd Prifwyl Ceredigion: “Gyda neges mor bwysig, trueni na ddarlledwyd y ddrama hon i’r genedl gyfan.”
Profiad arall fydd yn aros gen i am byth fydd trio llwyfannu pantomeim Nadolig yn yr haf, mewn pabell! Gwnaeth y cyfarwyddwr, Sioned Hâf Thomas tipyn o gamp yn cyfuno cast y panto Nadolig gydag aelodau ifanc Ysgol Berfformio Theatr Felinfach ac roedd ychwanegu’r criw ifanc yn dod ag egni cyffrous i’r cynhyrchiad ac roedd y criw ifanc yn lygaid i gyd wrth edmygu actorion enwog Panto Felinfach ac yn gofyn ymhob ymarfer ysgol berfformio “Pryd ni’n cael acto gyda pobol y panto go iawn?”. Cafwyd panto go iawn ymhob ystyr y gair. Does dim un sioe heb ei heriau, ond rhan o’r hwyl yw goresgyn yr heriau (a dod mas pen draw yn un pishyn!)
Cynulleidfaoedd niferus
Diolch i gast a chriw Maes G a’r Panto Haf, byddaf yn edrych yn ôl â hiraeth. Diolch hefyd i’r cynulleidfaoedd niferus. Ch’mod be’ licen i neud? Cyfri’r cynulleidfaoedd ar gyfer y cynyrchiadau a’r sioeau cymunedol go iawn – y Noson Lawen, Lawen, Cofio Eirwyn Pontsian ac Idwal Jones, y Panto Haf, Maes G, Nyth Cacwn, Ffilm Merched y Wawr, Hwyl Hael Jacob… a llawer iawn mwy. Dwi’n meddwl byddai’r ffigwr yn adrodd cyfrolau ac yn neges gref i sefydliadau ac eisteddfodau’r dyfodol. Yng ngeiriau Dylan Iorwerth, geiriau ola’, cân ola’ Maes G:
“Sefyll ar ein traed, gyrru ffawd ar ffo,
Er mwyn cefen gwlad, er mwyn hyder bro.”