Un bore Sadwrn ym mis Hydref 2004, fe benderfynodd 13 o bobl redeg 5k (tua 3.1milltir) rownd parc yn Llundain gan amseru eu hunain, a’i wneud e eto’r un amser y bore Sadwrn canlynol, a’r un wedi hynny, ac yn y blaen. Dyma oedd y dechrau i Parkrun, digwyddiad sydd erbyn hyn wedi cyrraedd bob cwr o’r byd, a ta le y’ch chi yn y byd bron erbyn hyn, mi fydd yna grŵp o fewn cyrraedd sy’n trefnu rhediad am 9 o’r gloch ar fore Sadwrn.
Y dechreuad yn Llanerchaeron
Ym mis Chwefror 2018, fe ddaeth criw lleol at ei gilydd i lansio fersiwn Dyffryn Aeron o’r Parkrun, ac ers hynny ar fore Sadwrn am 9 o’r gloch, mae croeso wedi bod i bawb ddod i Lanerchaeron i gerdded, loncio neu redeg ar gwrs 5k ar hyd Afon Aeron i gyfeiriad Aberaeron ac yn ôl. Ers y diwrnod hwnnw dros bedair mlynedd yn ôl, mae dros 3,300 o bobl wedi cymryd rhan – pob un â’i reswm dros wneud hynny. Heddiw (20fed o Awst) oedd y 150fed Parkrun yn Llanerchaeron, a mae’n mynd o nerth i nerth.
Perthyn i deulu, lles a iechyd meddwl
Un sydd wedi rhedeg, neu gwirfoddoli ar dros hanner digwyddiadau Llanerchaeron yw Liz Pugh o Olmarch. Fe ddechreuodd siwrne rhedeg Liz 5 mlynedd yn ôl wrth gymryd rhan mewn ymgyrch ‘Couch to 5k’. Erbyn hyn, mae rhedeg yn rhan o’i bywyd, a mae’r Parkrun hefyd yn bwysig iddi hi.
‘Mae rhedeg mor bwysig i fy iechyd meddwl erbyn hyn, a mae e wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi,’ medd Liz.
‘A mae dod yn wythnosol i redeg neu wirfoddoli ym Mharkrun Llanerchaeron fel bod yn rhan o deulu cefnogol,’ ychwaengodd.
Mae Dorian Evans o Aberaeron yn cytuno. Mae Dorian wedi bod yn dod yn rheolaidd i redeg neu i wirfoddoli yn Llanerchaeron. Heddi’, Dorian oedd un o’r ddau â’r rôl pwysig o gadw cofnod o amseroedd pawb.
‘Mae’r Parkrun yn rhoi ffocws i fi bob wythnos a wedi bod yn gymaint o help wrth ddygymod ag amgylchiade personol anodd iawn,’ medd Dorian.
Buzz a dechreuad da i’r Penwythnos
Wrth gyfarfod wedi gorffen y Parkrun yn Llanerchaeron heddiw, fe gytunodd Lena Jenkins o Aberaeron a Sara Thomas o Lambed fod cymryd rhan yn rhoi boddhad arbennig ar ddechrau’r penwythnos.
Mae Lena yn mynychu’n rheolaidd a wedi cymryd rhan dros 70 o weithiau, ond mae hi’n awyddus i bwysleisio mai nid i redwyr profiadol neu cyflym yn unig yw’r Parkrun.
‘Rwy’n dueddol o gerdded neu loncio a fel arfer yn dod mewn gyda’r rhai ola, ond mae’r croeso a’r gefnogaeth yr un mor frwdrydig gan bawb,’ meddai Lena.
‘Mae wedi bod yn fodd i gwrdd â llawer o bobl newydd, ond mi fyddai’n braf gweld mwy o bobl lleol hefyd yn dod i brofi’r wefr. Cofiwch, er mai Parkrun yw enw’r digwyddiad, mae pobl yn cerdded a loncian hefyd, ‘ ychwanegodd.
Yn profi ei Parkrun cynta oedd Sara Thomas heddi, wedi cael anogaeth gan ffrind iddi, Johnathan Price sy’n redwr profiadol. ‘Roedd hi wedi mwyhau’r profiad.
‘Mi fydda i’n bendant yn ei wneud e eto, a rwy’n cytuno ei fod yn rhoi ‘Buzz’ i chi ar ôl llwyddo gorffen,’ medd Sara.
113 yn gorffen heddiw
Fe gwblhaodd 113 o bobl y parkrun yn Llanerchaeron heddiw, sy’n golygu fod dros 3,300 o bobl yn gallu dweud eu bod wedi gwneud Parkrun Llanerchaeron. Yn eu plith oedd Arry Nathan o Holme Pierrepoint ger Nottingham. ‘Roedd e’n cwblhau ei 351fed Parkrun. Ar ymweliad â’r ardal, fe ddaeth i Lanerchaeron i redeg ac i wirfoddoli, gan helpu gyda’r broses o gofnodi canlyniadau’r rhedwyr. Wrth wneud, mae e wedi gwneud dros 100 o ffrindiau newydd.
Mae angen tua 15 o wirfoddolwyr yn wythnosol. Tîm o ‘Gyfarwyddwyr’ sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiadau wythnosol, gan gynnwys George Eadon o Giliau Aeron a Heulwen Jones o Lambed – y ddau wedi bod yn rhan o’r trefniadau ers y cychwyn.
Mae degau o filoedd yn rhan o deulu Parkrun yn fyd eang. Os ydych am fod yn rhan o’r teulu bach yn Nyffryn Aeron a dechrau neu barhau eich siwrne cerdded / loncian / rhedeg chi er mwyn gwella iechyd corfforol neu feddyliol, yna ewch i’r wefan am fwy o fanylion. Mi fydd croeso cynnes yn eich disgwyl bob bore Sadwrn am 9 o’r gloch.
Er gwybodaeth, er nad ras go iawn yw’r Parkrun, mae’r gorffenwyr cynta yn cael eu cofnodi. Mark Horseman o Bontypridd oedd y dyn cynta ’nôl heddi mewn amser o 19 munud, 5 eiliad. Catherine Barker o Benarth oedd y cyntaf i’r llinell derfyn o blith y menywod mewn amser o 21 munud 52 eiliad. ‘Roedd 111 arall yn dathlu eu canlyniadau personol nhw ar eu siwrneiau.