Llangadog 12 – 43 Aberaeron

Buddugoliaeth gyfforddus i’r ymwelwyr.

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Bleddyn Thomas, Rhodri Thomas, Bobby Jones a Jack Richards. Aelodau o’r un teulu â chwaraeodd dros Aberaeron.

Diolch i Glwb Rygbi Llangadog am groesawu Aberaeron mewn gêm gyfeillgar nos Wener.

Er gwaetha’r sgôr terfynol, roedd y tîm cartre’n wrthwynebwyr cryf gan orffen gyda dwy gais haeddiannol yn y munudau ola’.

Roedd hi’n braf gweld Aberaeron yn lledu’r bêl yn gyson gyda chyd-chwarae cyffrous rhwng y blaenwyr a’r olwyr.

Gyda phob aelod o dîm Aberaeron yn siarad Cymraeg a bron pob un o chwaraewyr Langadog yn siarad neu yn deall yr iaith, roedd hi’m bleser bod yno gan fod y dyfarnwr hefyd yn dyfarnu’r gêm yn Gymraeg – profiad arbennig!

Sgoriwyd ceisiau i Aberaeron gan Gethin Jenkins (2), Morgan Llewelyn (2), Dyfrig Dafis a Bedwyr Davies. Cafwyd cais gosb a phedair trosiad gan Rhodri Jenkins.

Tregaron bant nesa’.

Bydd Aberaeron yn dechrau eu tymor o ddifri bant yn Nhregaron ar 3ydd o Fedi yng ngêm gynta’r gynghrair.

Gobeithio fydd yna dorf luosog yn eu cefnogi yno.