Nid gweddill – beth sy’n digwydd bod ar ôl – yw gwaddol. Wrth waddoli mae yna fwriad clir i fuddsoddi. I gynllunio a chyflwyno rhodd o un genhedlaeth i’r llall. A’r gwaddol a gafwyd gan genedlaethau o Anghydffurfwyr ym mherfedd cefn gwlad Ceredigion oedd testun diolchgarwch Eglwys Troedyrhiw, Cribyn eleni wrth ail-agor y capel wedi gwaith adfer ac ail-harddu a gyflawnwyd dros fisoedd yr haf.
Criw bychan ond criw sy’n cydweithio’n hapus a chysurus sydd yn Nhroedyrhiw – nid annhebyg, bid siŵr, i’r criw bach a gododd – dan anogaeth Rees Powell, ficer Llambed – gapel syml yn gartref i Eglwys Sir Aberteifi ar safle ar gyrion Clwb Golff y Cilgwyn, yr oes hon. O’r gwreiddyn hwn, ryw 350 o flynyddoedd yn ôl, y tarddodd crynswth achosion Annibynnol ac Undodaidd de Ceredigion wrth i’r un eglwys ymneilltuol esblygu’n bedair cynulleidfa. O blith y gynulleidfa a gwrddai yn un o dai mas ffarm Crug-maen (ger Gorsgoch) y daeth Troedyrhiw i fodolaeth.
Adeilad digon amrwd oedd y capel cyntaf – ei lawr yn bridd a’i do yn frwyn. Ac er bod y tŷ cwrdd hwnnw wedi hen ddiflannu, ar lafar gwlad mae’r enw ‘Capel y Brwyn’ wedi goroesi.
Yn ôl cyfrifiad addoldai 1851 roedd 193 yn bresennol yng nghwrdd y bore a 55 yn Ysgol Sul y prynhawn. Ond erbyn troad yr ugeinfed ganrif, gwta 60 oedd yr aelodaeth. Achos y cwymp eithriadol oedd ymadawiad 9 o deuluoedd (mawr) am ‘fyd newydd’ a chyfle newydd yr Unol Daleithiau dan bwysau argyfwng costau byw y cyfnod hwnnw.
Dal ei dir – a chanolfan i’r gymuned.
Ers hynny, mae rhif yr aelodaeth wedi dal eidir yn syndod o dda (ychydig dros 30 ar hyn o bryd). Yn bwysicach na hynny mae Troedyrhiw yn ganolfan weithgar o ran y dystiolaeth Gristnogol yn Nyffryn Aeron a’r cyffiniau. Enghraifft o hyfywedd y capel bach a saif yng nghanol dim unman yw’r bore coffi a gynhaliwyd ddechrau’r flwyddyn i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn Wcrain. Gwnaethpwyd ymdrech arbennig i wahodd newydd-ddyfodiaid y cyfnod covid i ymuno â ni a thrwy hynny i ddechrau deall ein ffordd o fyw a’n gwerthoedd – yr union werthoedd hynny a waddolwyd i ni gan yr oesau a fu. Casglwyd £1,650 yn ystod y bore coffi a braf iawn oedd croesawu i’n plith canran dda o gymdogion newydd.
Nos Sul, 9 Hydref – noswaith y cwrdd ail-agor a diolch – roedd nifer o’r newydd-ddyfodiaid hynny eto’n bresennol gan ymuno yn yr addoliad trwy gyfrwng offer cyfieithu-anffurfiol-ar-y-pryd. Yn eu plith roedd Ray Linseele, y crefftwr fu wrth y gwaith ail-addurno, ynghyd â Nick a Hedge, ei gynorthwywyr.
Cyfoethogwyd y gwasanaeth gan weddi’r Parchedig Tom Evans (Cymorth Cristnogol gynt, ac un â ganddo hen berthynas ag eglwys Troedyrhiw) wrth iddo ddiolch ar ran y gymdeithas gyfan am waddol y gorffennol.
Â’r adeilad eto’n hardd, yn glyd ac yn groesawgar daeth ein hamser ni, nawr, i baratoi ein gwaddol i’r dyfodol.