Trip i Llain

Plant Ysgol Ciliau Parc yn mwynhau yn Llain

Plant Ysgol Ciliau Parc
gan Plant Ysgol Ciliau Parc

Ar ddydd Llun y 12fed o Fedi, aeth blwyddyn 3, 4, 5 a 6 i Ganolfan Gweithgareddau Llain. Aethon ni ar y trip i drio pethau newydd ac i ddatblygu sgiliau newydd. Roedd yn bwysig i drio cydweithio, dyfalbarhau ac anelu am y sêr wrth wneud y gweithgareddau.

I’r llyn aethon ni yn gyntaf, roedd yn bwysig iawn i wisgo siaced bywyd a helmed cyn neidio ar y caiac a’r bwrdd padlo. Cawson ni lawer o hwyl wrth chwarae gemau a rasio ar y llyn.

Ar ôl cinio, gwisgon ni’r offer yn barod i fynd ar y wal ddringo. Roedd rhaid cydweithio i dynnu’r rhaff a chadw’r dringwr yn ddiogel. Yna, cawson ni dro ar y rhaffau uchel.

Roedden ni i gyd wedi cael diwrnod hwylus ac arbennig a bydd yn neis iawn os allwn ni fynd nôl cyn bo hir.

Fideo o’r gweithgareddau

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Edwin, Dulas, Cari a Jack, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.