Ar nos Fercher Hydref 19eg cafwyd noson hyfryd yn Nhafarn y Vale wrth i Cered lansio llyfryn o ganeuon sydd wedi ei greu gan y Mentrau Iaith ar gyfer codi canu mewn tafarndai a lleoliadau cymunedol ledled Cymru dros gyfnod Cwpan y Byd.
‘Mae’n Wlad i Mi’ yw enw’r llyfryn ac mae’n cynnwys casgliad o ganeuon sy’n cynnwys hen ffefrynnau fel Calon Lân a Safwn yn y Bwlch naill ochr â chaneuon mwy cyfoes fel Rhedeg i Baris a Hogia Ni.
Mae’r llyfryn yn cynnwys y geiriau Cymraeg ar gyfer naw o ganeuon yn ogystal â fersiwn ffonetig a chyfieithiadau o’r caneuon felly mae’n adnodd gwych ar gyfer dysgwyr tebyg i’r rhai oedd wedi tyrru i’r Vale i’r sesiwn yma. Mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys cordiau i’r holl ganeuon er mwyn caniatáu rhywun i gyfeilio ar y gitâr (fel gwnes i), yr ukulele neu ar y berdoneg.
Os oes diddordeb gennych drefnu sesiwn debyg i’r un yma yn eich tafarn leol chi neu os hoffech gopi o’r llyfryn cysylltwch gyda mi ar steffan.rees@ceredigion.gov.uk.