Beth oedd yr ysgogiad a’r egni a arweiniodd at godi’r adeiladau hyn ar hyd a lled Cymru?
Dewch i ni ddechrau trwy ddweud bod hanes capeli Cymru yn mynd yn ôl tipyn pellach na’r adeiladau eu hunain, ac mae hanes pobl yn fwy difyr o lawer na cherrig a mortar! A ble well i ddechrau nag yn Neuaddlwyd ei hun…
Rhywbryd cyn 1746, adeiladwyd ysgoldy bychan ar dir tyddyn o’r enw Y Neuaddlwyd yn Nyffryn Aeron er mwyn rhoi hyfforddiant crefyddol ynddo. (Mae’n debyg mai ‘Mr Jones’ oedd enw perchennog y tyddyn!)
Erbyn 1760 roedd eglwys wedi ei sefydlu yno. Hynny yw, roedd grŵp o bobl – doedd dim angen mwy na dau neu dri, ond roedd rhagor siwr o fod – wedi penderfynu ffurfio cymuned Gristnogol fyddai’n cwrdd yno.
Yn nhraddodiad y capeli, mae’r gair ‘eglwys’ yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at y bobl – yr aelodau – a’r ‘capel’ yw’r adeilad. Mae’n wahaniaeth pwysig. Does dim sôn am gapeli yn y Beibl, ond mae tipyn o sôn am ‘eglwysi’ yn yr ystyr yma, ac mae dilynwyr Iesu yn cael eu disgrifio fel ‘cerrig sy’n fyw ac yn anadlu’.
Efallai ei bod yn briodol felly nad oes cofnod o’r flwyddyn y codwyd y capel cyntaf yn Neuaddlwyd, ond mae’n debyg ei fod wedi’i adeiladu ar safle’r ysgoldy hwnnw lle ffurfiwyd yr eglwys…
Gallwch hefyd hoffi/dilyn Academi Neuaddlwyd ar ei thudalen Facebook.
Llun: Map o Sir Aberteifi oedd wedi’i gynnwys yn arolwg Joseph Singer, 1 Tachwedd 1803. Wedi’i ddigido gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. https://bit.ly/3Wp5mWX