Cynhaliwyd Eisteddfod C.Ff.I Ceredigion ar Nos Iau’r 3ydd a Dydd Sadwrn y 5ed o Dachwedd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Bu cystadlu brwd drwy gydol yr Eisteddfod, gyda C.Ff.I Felinfach yn llwyddo i ddod i’r 3ydd safle ar ddiwedd y cystadlu. Dyma flas ar lwyddiannau’r clwb yn yr Eisteddfod eleni:
LLWYFAN
Deuawd – Ianto Jones ac Ella Evans – 1af
Côr Cymysg – 1af
Canu Emyn Nofis – Ella Evans – 1af
Llefaru 28 oed neu iau – Alaw Mair Jones – 2il
Cyflwyniad Dramatig – Owain a Bleddyn Thomas – 2il
Canu Emyn – Ianto Jones – =3ydd
Ensemble Lleisiol – 3ydd
Cân gyfoes – 3ydd
GWAITH CARTREF
Llyfr Lloffion – 2il
Rhyddiaith (Y Goron) – Alaw Fflur Jones – 2il
Cerdd (Y Gadair) – Ianto Jones – 2il
Cystadleuaeth i aelodau 16 oed neu iau – Ioan Price – 2il
Cystadleuaeth i aelodau 28 oed neu iau – Ffion Evans – 2il
Brawddeg – Ianto Jones – 2il
Cystadleuaeth i aelodau 21 oed neu iau – Iwan Jenkins – =3ydd
Ffotograffiaeth 28 oed neu iau – Gwern Thomas – =3ydd
Rhaglen Clwb – =3ydd
Dawns TikTok 28 oed neu iau – Erin Davies – 3ydd
CANLYNIADAU TERFYNOL
Adran Gwaith Cartref – =1af
Canlyniad terfynol yr Eisteddfod – 3ydd (78 marc)
Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli’r clwb a’r sir yn Eisteddfod C.Ff.I Cymru yn Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun ymhen pythefnos ar yr 19eg o Dachwedd. Edrychwn ymlaen at gael mynd â’r Côr i lefel Cymru am y tro cyntaf ers 2007! Diolch i Siw Jones a Ficer Wyn Maskell am arwain a chyfeilio. Cafwyd noson hwylus o ddathlu’r fuddugoliaeth wedyn yn Nhafarn y Vale – llawn haeddiannol ar ôl wythnosau o ymarfer diwyd. Ymlaen nawr at Gymru!
Diolch i bawb, boed yn aelodau, arweinyddion, rieni neu’n hyfforddwyr am eu hymdrechion a’u cefnogaeth, gyda chynifer o aelodau’n cystadlu am y tro cyntaf erioed ar lwyfan Eisteddfod y C.Ff.I.
Cofiwch ddilyn C.Ff.I Felinfach ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf o griw Dyffryn Aeron!
Instagram: @cffifelinfach
Facebook: Ffrindiau CFFI Felinfach YFC Friends
Twitter: @CFfIFelinfach