Dathlu wedi canlyniad annisgwyl!

Aberaeron 25 – Dinbych y Pysgod 19

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Rhodri Jenkins yn sgorio (Llun: Rhys Hafod)

Tudur Jenkins – mas a hi! (Llun: Rhys Hafod)

Wedi’r gêm hawdd yn erbyn Llangwm y Sadwrn cynt, roedd rhaid i Aberaeron fod ar eu gorau os am ennill yr ornest hon.

Dinbych y Pysgod o’r ail adran oedd yr ymwelwyr ar Barc Drefach dydd Sadwrn yn rownd gyntaf Cwpan Sir Benfro. Roedd y gwahaniaeth yn y safon rhwng Aberaeron o’r drydedd adran â thîm o’r ail adran yn amlwg.

Dechreuodd y gêm ar garlam gyda’r ddau dîm yn lledu’r bêl. Er pob ymdrech gan y tîm cartref i’w rhwystro, yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi deng munud o chwarae gyda throsgais.

Aberaeron yn brwydro’n ôl

Ymhen ychydig amser roedd Aberaeron wedi taro’n ôl. Gan gasglu’r bêl yn agos at yr asgell yn hanner ei hunan gwnaeth y cefnwr, Morgan Llewelyn benderfynu ymosod. Ciciodd y bêl dros dau amddiffynnwr gwahanol ac mi wnaeth y bêl fownsio’n ffafriol iddo i redeg yn glir am gais gyntaf y prynhawn i Aberaeron.

Roedd hyn yn dipyn o ergyd i’r ymwelwyr ag yn hwb i’r tîm cartref. Ymhen ychydig aeth Aberaeron ymhellach ar y blaen gyda chic gosb gan Rhodri Jenkins. Aberaeron oedd yn rheoli erbyn hyn gydag aelodau’r pac yn cario’n gryf ag yn torri trwodd yn gyson. Trwy droi pêl gloi o’r sgarmesau gwnaeth Aberaeron frwydro ymlaen tuag at linell gais yr ymwelwyr. Yn sgil hyn  daeth cais arall i’r tîm cartref wrth i’r canolwr ifanc, Gethin Jenkins  groesi i Aberaeron. Aethant ar y blaen 15 – 7 wedi trosiad llwyddiannus gan Rhodri Jenkins.

Aeth Aberaeron ymhellach ar y blaen cyn y toriad trwy drosgais gan Rhodri Jenkins. Mi wnaeth dorri’n gryf o hanner ei hunan gan faeddu’r amddiffyn i sgorio yn y cornel i wneud y sgôr ar yr hanner yn 22-7 i Aberaeron.

Ail hanner

Yn ôl y disgwyl dechreuodd Dinbych y Pysgod yr ail hanner yn gryf gan osod pwysau ar y tîm cartref yn eu 22 eu hunain. Er brwydro’n galed i dorri trwodd  gwnaeth yr amddiffyn eu dal wedi cyfnod hir o bwyso.

Gyda thua chwarter awr i fynd, gwnaeth yr ymwelwyr lwyddo gyda throsgais, ond cadw i amddiffyn yn ddewr wnaeth Aberaeron gan dorri i mewn i hanner eu gwrthwynebwyr yn gyson. Fe ddaeth cic gosb i Aberaeron yn dilyn un ymweliad á hanner y gwrthwynebwyr. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’i ail gic gosb i osod y sgôr yn 25 – 12 i Aberaeron gyda dim ond pum munud i fynd.

Llwyddodd Dinbych y Pysgod sgorio a throsi cais arall cyn diwedd y gêm ond methiant fu eu hymdrech i ychwanegu at eu 19 pwynt.

Y tîm

Buddugoliaeth haeddiannol i’r tîm cartref felly, ac mae’n rhaid rhoi clod i’r tîm cyfan am yr ymdrech hon.

Bu’r pac yn arwrol yn eu hymdrech gyda’r sgrymio’n solet ac fe wnaethant ennill tair llinell oddi wrth eu gwrthwynebwyr. Rheng flaen – Dafydd Lloyd, Sion Evans, Kuba Poblonski; Ail reng – Steffan Dale, Richard Francis; rheng ôl – Llyr Daveis, Hefin Williams, Ryan Williams.

Rhaid canmol y cefnwyr hefyd. Eto, roedd yr ymdrech amddiffynnol yn wych ac roedd y trafod yn arbennig. Rhif 9 – Tudur Jenkins; Rhif 10 – Rhodri Jenkins; canolwyr – Gethin Jenkins, Dyfrig Dafis;  tri ôl – Steffan Dafydd Jones, Dilwyn Harries, Morgan Llewelyn.

Gobeithio bod y canlyniad yma yn hwb i’w hymdrechion yn eu gemau nesaf yn y gynghrair yn erbyn San Clêr a Llanbed.

Eu gwrthwynebwyr nesaf yng nghwpan Sir Benfro bydd Arberth Athletic ar Barc Drefach.