Ddydd Sul diwethaf, cynhaliwyd Ffair Nadolig blynyddol Ysgol Ciliau Parc yn Neuadd y Pentref. Roedd hi’n hyfryd gweld y neuadd yn llawn o deuluoedd a ffrindiau yr ysgol yn cymdeithasu ac yn cefnogi cwmnïau bach lleol.
Diolch yn fawr i’r 14 cwmni ddaeth â stondin yn llawn o nwyddau hyfryd i’w gwerthu.
- Bara Boeth Bara Boeth | Facebook
- Betsis Bows Betsi’s Bows & Gifts | Facebook
- Botymau Del Botymau Del | Facebook
- Cardiau Bronwen Cards by Bronwen | Facebook
- Celflyn – CelfLyn | Aberaeron | Facebook
- Crefftau Mam a Ni Crefftau Mam a Ni | Facebook
- Gwin Llaethliw Wine Gwinllan Llaethliw Vineyard | Aberaeron | Facebook
- Lables by Robyn Labels.By.Robyn | Facebook
- Nwyddau Noni Nwyddau Noni | Aberystwyth | Facebook
- Ogwen Evans Ogwen Evans | Facebook
- Pwythau’r Llyn Pwythau’r Llyn | Facebook
- Spotty Zebra – Lizzy Bailey
- Susanne Ryder Photography Susanne Ryder Photography | Tregaron | Facebook
- Y Lein Y Lein | Facebook
Yn ychwanegol i’r cwmnïau, roedd rhieni a phant yr ysgol wedi trefnu:
- Stondin Gacennau
- Tombola ‘Sprout or Nowt’
- Raffl
- Cystadleuaeth Enwi’r Tedi
- Stondin Nwyddau Plant yr Ysgol
Roedd holl blant yr ysgol wedi bod yn brysur yn creu nwyddau i’w gwerthu ar ein stondin. Crëwyd addurniadau pren lliwgar, peli llawn eira i’w rhoi ar y goeden, rhubanau gwallt del a phecynnau o ‘marshmallows’ melys a siocled.
Rhaid diolch o galon i aelodau ffyddlon o Gymdeithas Rhieni a Ffrindiau yr ysgol am eu gwaith i drefnu’r Ffair ac am helpu mewn unrhyw ffordd.
Codwyd ychydig dros £1800 i’r ysgol. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Welwn ni chi’r flwyddyn nesaf!