Ydych chi erioed wedi clywed am ‘Listicle’? Term Saesneg ydyw sy’n gyfuniad termau ‘list’ ac ‘article’ neu yn y Gymraeg “rhestr” ac “erthygl”. Mewn gwirionedd erthygl ar ffurf rhestr o bethau ydw. Felly, rydym wedi bathu ar derm newydd Cymraeg – Rhestygl!
Dyma ‘Rhestygl’ Plant Ysgol Ciliau Parc
Wrth ddechrau agor eu calendrau Adfent heddiw, mae Plant Ysgol Ciliau Parc yn dechrau meddwl am y Nadolig.
Rydym i gyd yn mwynhau derbyn anrhegion gan deulu, ffrindiau ac wrth gwrs Siôn Corn. Ond mae mwy i’r Nadolig ‘na derbyn anrhegion. Mae’n bwysig hefyd meddwl am y gwahanol bethau gallwn fod yn eu gwneud er mwyn bod yn garedig yn ystod cyfnod yr Adfent.
Felly rydym wedi creu rhestr o 24 peth caredig i’w gwneud. Beth am drio gwneud un peth caredig bob dydd o heddiw nes diwrnod Nadolig fel Calendr Adfent gwahanol.
- Tacluso eich ystafell wely heb i’ch rhieni ofyn.
- Ewch ag hen deganau, llyfrau neu ddillad dydych chi ddim yn defnyddio rhagor i’r siop elusen.
- Gofyn i riant neu aelod o staff yn yr ysgol a oes jobyn allwch chi ei wneud i’w helpu.
- Chwarae gyda rhywun gwahanol yn yr ysgol.
- Eistedd ar bwys rhywun gwahanol amser cinio neu ar y bws nofio.
- Cyfrannu eitemau i’r Banc Bwyd lleol.
- Ysgrifennu llythyr at rywun dydych chi ddim wedi ei weld ers amser hir.
- Coginio brownies blasus i’ch ffrindiau.
- Bod yn garedig i’ch brawd neu chwaer.
- Mynd i gasglu sbwriel yn yr ardal.
- Tynnu llun neu baentio darlun i rywun a’i roi fel anrheg.
- Rhoi cwtch mawr i aelod o’r teulu a dweud ‘Rwy’n dy garu di!’
- Gwenu ar bawb.
- Dweud rhywbeth neis i rywun er mwyn hela nhw i deimlo’n dda am eu hunain.
- Ffoniwch berthynas i ddweud helo.
- Creu anrheg i rywun.
- Dweud ‘Diolch yn fawr’ arbennig i rywun a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod pam rydych chi’n dweud diolch iddynt.
- Dweud jôc er mwyn gwneud i rywun wenu a chwerthin.
- Helpu coginio swper.
- Tacluso llestri brecwast neu swper heb i rywun ofyn i chi.
- Ysgrifennu nodyn i rywun yn nodi 5 peth rydych chi’n hoffi amdanynt.
- Darllenwch stori i blentyn bach yn yr ysgol.
- Codwch ddarn o sbwriel i fyny.
- Peidiwch gwyno trwy’r dydd!