Codi £250 i Dwrci a Syria

Gorymdaith Ffair Sant Silin yn codi baner brawdgarwch

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Yr-Orymdaith-Fawr-2

Baner o waith plant yr Urdd – dan arweiniad yr artist Gwenllian Beynon – ar flaen yr Orymdaith Fawr.

Miley-Penlanganol-harddangosfa

Miley, Penlanganol a’i dofednod o Brechfa a Brasil!

Wrth i orymdaith fawr Ffair Sant Silin ddirwyn drwy bentre Cribyn ddydd Sadwrn, codwyd £250 i apêl DEC Cymru i helpu bobol Twrci a Syria yn sgil y ddaeargryn erchyll.

Does neb yn siŵr pryd daeth y ffair flynyddol i ben (yn weddol fach wedi’r Rhyfel Mawr, mae’n debyg) ond ers 2017 mae Cymdeithas Clotas wedi atgyfodi’r hen draddodiad o ddathlu gŵyl Sant Silin yn ystod ail wythnos mis bach.

Does neb yn siŵr chwaith ble’n union roedd clas Sant Silin – yr adeilad syml a godwyd ganddo yn oes Dewi Sant yn ganolbwynt i’w genhadaeth o blannu a thyfu Cristnogaeth yn y parthau hyn. Ond mae’r  enwau ‘Penlancapel’, ‘Cae’r Fynwent’ a’r hen gof am bentre Sant Silin (rhyw ddwsin o fythynnod o gwmpas Felin Hafodwen) yn awgrymu mai tua’r ardal hon y safai.

O’r gornel hanesyddol hon felly, ger Penlancapel, ac o dan yr hen ga’ ffair gynt, y cychwynnodd yr orymdaith ddydd Sadwrn, 11 Chwefror, sef Dydd Sant Silin, 2013. Ar flaen y cerddwyr roedd plant adran yr Urdd yn cario baner newydd o’u gwaith eu hunain. Cnocwyd ar ddrysau a chasglu cyfraniadau at  anffodusion y ddaeargryn bob cam draw i’r ysgol lle’r roedd Chris Thomas (gynt o Faesteg, Cribyn) yn arddangos ei waith coed cywrain a Miley, Penlanganol, yn arddangos ei chasgliad lliwgar o ffowls a chywion bach o bedwar ban y byd.

Gan fod y cyngor sir wedi troi neuadd yr ysgol yn stordy dros dro roedd hi’n dipyn o wasgfa pan ddaeth yn adeg crynhoi pawb i’r hen dŷ’r ysgol gynt ar gyfer cyflwyno elw llyfr Wyndham Jones, Cribyn – Bro fy Mebyd, i gynrychiolydd Ambiwlans Awyr Cymru (stori lawn i ddilyn). Wedi llawenydd a balchder mawr y cyflwyno dipyn o siom oedd cyd-wylio gêm yr Alban a Chymru.

Er gwaethaf hynny, braf oedd cael bod yn griw mawr hwyliog ynghyd a brafiach fyth, wrth droi am adre, oedd meddwl ein bod – dros 1,500 o flynyddoedd wedi’i farw – wedi cadw enw Sant Silin yn fyw ac, yn ein cyd-gasglu a chyd-ddathlu, wedi lledu o’r newydd ei genhadaeth o gariad a brawdgarwch.

Diolch i Gwn Hela Llwnwnnen am ddod ynghyd yn enw Sant Silin eleni eto, i Ficer Beth am gyflwyno, drwy enau Diane Williams, gair o weddi i gofio am nawddsant Cribyn ac i Rhonwen Thomas am ddarparu te a choffi a byrgyrs a jips a chyrri a lasania blasus irfeddu drwy gydol y pnawn a’r nos.