Nos Fawrth diwethaf, yr 21ain o Chwefror fuodd dros 40 o aelodau CFfI Felinfach, rhai am y tro cyntaf, yn perfformio yng Nghystadleuaeth Hanner Awr o adloniant CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach.
Cafwyd gwledd o adloniant gan 13 o glybiau Ffermwyr Ifanc y Sir yn ystod yr wythnos, ond i’r Syrcas aeth CFfI Felinfach eleni. Ac ar ôl cryn dipyn o ddysgu jôcs, dawnsio, canu a chwysu, llwyddodd y clwb i gipio’r 3ydd safle yn y gystadleuaeth. Tipyn o gamp!
Mae clod mawr hefyd i…
Alaw Mair Jones – Cydradd 3ydd fel yr Actores Orau
Iwan Thomas – 1af am y Sgript Gorau
Iwan Thomas ac Arweinyddion y Clwb – Cydradd 2il fel y Cynhyrchwyr Gorau
Mae’r aelodau yn ddyledus iawn i Iwan am roi ei amser a’i ddawn i helpu’r clwb unwaith eto, ac yn ddiolchgar tu hwnt i weddill yr arweinyddion a fuodd yn helpu i gynhyrchu, cadw trefn a chreu a chasglu gwisgoedd – dyma ichi waith tîm ar ei orau!
Cyngherdd y Goreuon
Yn unol â thraddodiad, mae’r clwb yn ail-berfformio’r Syrcas yng Nghyngerdd y Goreuon heno, 27ain o Chwefror yn Theatr Felinfach gyda CFfI Bro’r Dderi a ddaeth yn 2il yn y gystadleuaeth a CFfI Pontsian, enillwyr Hanner Awr o Adloniant CFfI Ceredigion, 2023.
Pob lwc i CFfI Pontsian yng nghystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant CFfI Cymru ddydd Sul ym Mangor.
Heb gael cyfle i weld y Syrcas?
Wel peidiwch â phoeni, mae CFfI Felinfach yn ail berfformio’r Syrcas eto…
– Nos Iau, 2il o Fawrth am 7:30 ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid gyda CFfI Lledrod a CFfI Trisant
– Nos Wener, 3ydd o Fawrth am 7:30 yn Theatr Felinfach gyda CFfI Llanwenog a CFfI Llanllwni