Arwel yn diddanu’r Hoelion

Noson ddifyr yn Nhafarn Ffostrasol

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Un o fois Dyffryn Aeron bu’n diddanu aelodau o gangen Bro Siôn Cwilt o’r Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol nos Lun diwethaf.

Ar fyr rybudd, fe ddaeth Arwel Jones, Teglan, Ciliau Aeron i siarad am enwogion o Geredigion. Fel mae’n hysbys, mae gan Arwel ddiddordeb mawr yn ein hanes a’n treftadaeth ac fe gafwyd noson hwylus a diddorol dros ben yn ei gwmni.

Mae’n syndod y nifer o enwogion mae’r sir yma wedi eu magu neu eu mabwysiadu. Mae dyn yn dueddol o anghofio am lawer ac mi roedd yn braf cael ein hatgoffa am y bobl hyn a wnaeth neu sydd yn gwneud eu marc ar fywydau llawer ohonom.

Eu rhannu i wahanol grwpiau

Mi rannwyd yr holl enwogion i gategorïau gwahanol. Mae’n syndod y nifer o alwedigaethau a diddordebau sy’n bodoli!

Dyma’r rhestr:

  • Gwleidyddion
  • Pregethwyr
  • Cantorion proffesiynol
  • Diddanwyr/cantorion canu ysgafn
  • Actorion
  • Cyflwynwyr radio/teledu
  • Beirdd
  • Ysgrifennwyr llyfrau/dramâu
  • Mabolgampwyr
  • Gwrthryfelwyr
  • Y lleill – nad sy’n ffitio i mewn i’r uchod

Mi nodwyd cannoedd o enwau i gyd ac i derfynu’r noson mi wnaeth Arwel gynnwys ei ddeg uchaf fel yr oedd ef yn teimlo dylai pethe fod. Wy ddim am eu rhestru ond mi fyddai’n ddiddorol gwybod beth yw eich barn chi’r darllenwyr. Efallai bod yna bosibilrwydd cynnal arolwg ar hyn rhyw ddydd.