Efallai fod ambell un ohonoch chi yn gyfarwydd â hanes Idwal Jones o Lambed a’i ddrama enwog ‘Pobl yr Ymylon’. Os felly, mae’n siŵr fod y llun unigryw hwn ohono yn fyw i’r cof, ond mae’n debyg y bydd yr enw yn ddieithr iawn i’r rhan fwyaf.
Nos Fercher ddiwethaf, trafododd Euros Lewis ddarlith am y gŵr hwyliog hwn yn Theatr Felinfach yn Narlith Goffa Flynyddol Marie James a daethpwyd i’w adnabod yn well.
Athro Ysgol, Bardd, a Dramodydd oedd Idwal a digon priodol oedd trafodi’r ddarlith yn Felinfach gan fod ei wreiddiau â’r ardal yn ddwfn iawn. Bu’n Ysgolfeistr yn Ysgol Felinfach a Threfilan yn ystod 30au’r ganrif ddiwethaf ac mae sawl cerdd o’i eiddo â chysylltiadau â’r ardal.
Cyn hynny, ymunodd Idwal Jones â’r fyddin ym mis Mawrth 1915 a bu’n gwasanaethu yn nwyrain Affrica. Aeth i’r Brifysgol yn Aberystwyth yn 1919 ac yno y daeth i sylw’r genedl gyntaf gan chwarae rhan ganolog yn niwylliant Cymraeg y Brifysgol. Roedd yn dipyn o dynnwr coes ac yn ŵr drygionus iawn a gellid adrodd sawl stori amdano yn y Brifysgol!
Yn ôl Euros, pan ddaeth yn Ysgolfeistr, roedd ei gyfraniad i ysgolion lleol yn amhrisiadwy ac roedd gan y plant feddwl y byd ohono.
Hefyd yn ystod y noson, adroddodd Ifan Tregaron rai o’i gerddi amlycaf a’r rheiny yn rhai unigryw iawn i ddweud y lleiaf a chafwyd cân gan Carys Mai ar osodiad o un o’i gerddi.
Diolch i Euros am roi’r cyfle i ni ddod i adnabod Idwal yn well.