Camu i fyd Stand yp

Mentro gwneud stand yp am y tro cyntaf yn 52 Oed

Tess Price
gan Tess Price

Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i rai blynyddoedd yn ôl y byddwn i’n camu i fyd y stand yp yn 52 oed fyddwn i’n dweud

‘No way!’.

Wrth i mi fynd yn hŷn sylweddolais nad oedd esgus dros beidio â gwneud rhywbeth yr ydych am roi cynnig arno. Byddwn i’n dweud celwydd taswn i’n dweud nad oeddwn i’n nerfus, roeddwn i’n nerfus iawn! Ond roeddwn yn lwcus iawn i gael cynulleidfa mor anhygoel oedd yn fy nghefnogi ac yn chwerthin diolch byth.

Ma bywyd yn rhy fyr – bachwch ar bob cyfle, a rhowch gynnig arni.