Dewis Brenin a Brenhines Ciliau Aeron

Cynnal disgo i ddewis Brenin a Brenhines ar gyfer Carnifal y pentref

gan Alwen Thomas
20230516_191424

Beirniaid y Carnifal gyda’r Brenin a’r Brenhines

Nos Fawrth 16 Mai 2023, cynhaliwyd disgo i ddewis Brenin a Brenhines Carnifal Ciliau Aeron. Braf oedd gallu cynnal y digwyddiad unwaith yn rhagor ers cyn y pandemig, gyda’r neuadd dan ei sang.

Yr enwau a ddaeth allan o’r het ar gyfer y Brenin oedd Dylan Williams, a Milly Mathias ar gyfer y Frenhines. Yn ôl yr arfer, bydd disgyblion blwyddyn 1 o Ysgol Ciliau Parc yn weision ac yn forynion. Eleni, bydd disgyblion blynyddoedd 2, 3 a 4 yn cael bod yn weision ac yn forynion hefyd gan eu bod wedi colli’r cyfle pan nad oedd hi’n bosibl cynnal y Carnifal adeg Covid-19.

Mae trigolion y pentref a’r ardal yn edrych ymlaen at y Carfinfal, a fydd yn cael ei gynnal ar y 1af o Orffennaf, yn neuadd y pentref. Y beirniaid eleni fydd Ian a Karen Shearsmith.