Blog byw Aeron360 o’r Rali

Y diweddara’ o Rali CFFI Ceredigion o Fferm Perth Neuadd

Carys Mai
gan Carys Mai

Ma’r haul yn tywynnu ac mae’r cystadlu wedi dechrau yma ar gaeau Fferm Perth Neuadd!

13:24

Dyma Swyddogion newydd CFfI Ceredigion yn cyrraedd y cae gyda CFfI Felinfach. 
Dyma beth oedd gwledd! 

12:57

Mae popeth yn barod ar gyfer seremoni y Coroni.

12:32

Arwydd CFFI Felinfach

Ail i CFFI Felinfach yn ei hunig gystadleuaeth – creu arwydd!

12:25

Ar ddeall bod dros 260 o’r crysau’ma wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer y Rali – fe welwch chi nhw ymhob twll a chornel yma heddi! Dros 260 o bobl Felinfach a’r ardal sydd wedi dod at ei gilydd i wneud heddi’n bosib – yn stiwardiaid, beirniaid, addurnwyr, adeiladwyr arwyddion, swyddogion diogewlch a chefnogwyr lu!

12:09

Llongyfarchiadau i Glwb Mydroilyn ar ennill yr Arwydd Gorau. Gwych! 

12:02

Tablo CFFI Penparc
Tablo CFFI Penparc

Criw’r tablos wrthi’n brysur yn yr haul tanbaid! 

12:00

Canlyniad yr Arddangosfa Ffederasiwn.

11:32

Osian, aelod ifanca’ CFFI Mydroilyn, newydd orffen ei gystadleuaeth cynta’ erioed yn Rali CFFI – shwt ti’n meddwl ath hi Osian?

11:18

9 o glybiau yn cystadlu yn y gystadleuaeth hyrwyddo clwb – cyfle i ddysgu mwy am y profiadau, sgiliau a’r sbort ma pobl ifanc y sir yn gael o fod yn aelod o’r mudiad.

Dyma aelodau CFFI Mydroilyn yn mynd amdani!

11:14

9 o glybiau yn cystadlu yn y gystadleuaeth hyrwyddo clwb – cyfle i ddysgu mwy am y profiadau, sgiliau a’r sbort ma pobl ifanc y sir yn gael o fod yn aelod o’r mudiad.

Dyma aelodau CFFI Mydroilyn yn mynd amdani!