Bore Lles

Joio bore lles yn Ysgol Dihewyd 

gan Blwyddyn 6 Ysgol Dihewyd

Ar ddydd Mercher y 14eg o Fehefin, cafon ni fore lles yn yr ysgol.

Bach o lliwio lles oedd yn gyntaf, roeddwn wedi mwynhau gwneud hyn. Ioga oedd wedyn, gyda creu siapau coeden, wiwer, cadno a carreg gyda’r corff. Ar ôl ioga, cerddon ni lawr i’r eglwys er mwyn cael awyr iach a gwrando ar fyd natur.

Yna, ar ôl dychwelyd i’r ysgol, roeddwn yn siarad am ein teimladau, beth oeddwn ni wedi gweld ar y wac, a defnyddio ein synhwyrau.

Roedd y bore lles yn llwyddiannus iawn, oherwydd roeddwn yn teimlo wedi ymlacio ar ôl gweithgareddau’r bore. Hoffwn ddweud diolch i Mrs Wright am arwain y bore!