Cyffro Mawr yn Llanllyr, Talsarn

Pwy oedd yma gyntaf, a Pryd.

Barbara Roberts
gan Barbara Roberts

Cyffro? Am beth?

Am y garreg fach yma, y microlith.

Mae’r archeolegwyr, sydd wedi bod yn palu yn ddiweddar yn Llanllyr wedi darganfod carreg o’r oes Fesolithig, hynny yw 8-10 mil o flynyddoedd yn ol.

Pam ydy hyn yn bwysig?

Achos dyma’r dystiolaeth gyntaf sydd gennym o’r bobl gyntaf a ddaeth i fyw yn Nyffryn Aeron.

Mae peth mor fach a hyn yn dweud stori fawr.

Ar ol i’r ia cilio yn yr adeg Fesolithig roedd llyn mawr yn Nyffryn Areon, lle delfrydol i bysgota a hela a chasglu.

Sut oedden nhw yn gwneud hyn? Gyda offer wedi’i wneud o fflint. Gyda rhain roeddynt yn gallu byw ar gynnyrch naturiol y wlad.

Pobl ddyfeisgar a deallus oedd ein cyndeidiau