O Aberaeron i Boduan! 

Ail-gylchu ac ail-ddefnyddio arwyddion Steddfod. 

gan Mair Jones

Ydych chi’n cofio gweld yr arwyddion yma yn Aberaeron union flwyddyn yn ôl?
Wel, erbyn hyn maent wedi cyrraedd Boduan ac yn cael eu gosod i fyny y penwythnos yma!
Ers Eisteddfod Tregaron maent wedi bod yn cuddio mewn sied yn y dre’ – ond fe alwodd un dyn arbennig iawn ar ei ffordd o Dderwen Gam i’w cludo i’r gogledd.
Os ydych chi’n mynd i Lŷn ac Eifionydd yn fuan, neu yn ymweld â’r Eisteddfod eleni, cofiwch gadw’ch llygaid ar agor!