Dydd Sadwrn y 1af o Orffennaf, cynhaliwyd Carnifal Ciliau Aeron am y tro cyntaf ers cyn Pandemig Covid-19.
Brenhines y Carnifal eleni oedd Milly mathias, a Dylan Williams oedd y Brenin. Disgyblion blwyddyn 1 Ysgol Ciliau Parc fer arfer yw’r Osgordd, ond er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw blentyn wedi colli’r cyfle i fod yn rhan o’r Osgordd oherwydd y Cyfnodau Clo, estynnwyd gwahoddiad i ddisgyblion blynyddoedd 1, 2, 3 a 4.
Dyma restr o’r plant a oedd yn rhan o’r Osgordd:
Blwyddyn 1: Dewi Evans, Timothy Williams, Siân Hodgson.
Blwyddyn 2: Anest Dafydd, Hari Wozencraft, Guto Jenkins, Bleddyn Thomas.
Blwyddyn 3: Arwel Williams, Osian Williams, Ffion Evans, Myfi Pugh, Emma Hughes, Hana Lewis, Guto Storer, Gruff Dafydd.
Blwyddyn 4: Mark Williams, Ifan Wozencraft, Meian Jenkins, Cerys Edkins, Liliana Cockburn, Elsy Jenkins, Bella Hayday
Cystadlaethau Gwisg Ffansi
Yn dilyn coroni’r Brenin a’r Frenhines bu’r beirniaid Jan a Karen Shearsmith yn beirniadu cystadlaethau’r Gwisg Ffansi. Dyma’r canlyniadau:
Babanod:
1af – Florence (Tinkerbell)
2il – Celt (Lindysen)
3ydd – Imogen Eadon (Cwningen)
Plant Meithrin a Dosbarth Derbyn:
1af – Benjamin Eadon (John Deere)
2il – Fflur Thomas (Ms Thomas – prifathrawes/foreman Ysgol Dyffryn Aeron)
3ydd – Martha (Wonderwoman)
Blwyddyn 1 a 2:
1af – Dewi Evans (Tywysog Louis)
2il – Timothy Williams (Ironman)
3ydd – Bleddyn Thomas (Adeiladwr Ysgol Dyffryn Aeron)
Blwyddyn 3 a 4:
1af – Arwel Williams (Uncle Albert)
2il – Ffion Evans (Tywysoges Charlotte)
Blwyddyn 5 a 6:
1af – Lea Thomas (Glastonbury)
2il – Tomos Williams (Dellboy)
3ydd – Evelyn Eadon (Matilda)
Plant Ysgol Uwchradd/Oedolion:
1af – Betty Ellis (Cranogwen)
2il – Rhian Thomas (Glastonbury)
3ydd – Maddie Eadon (John Deere)
Cymeriad Gorau oddi ar y Teledu:
1af – Arwel Williams (Uncle Albert)
2il – Bleddyn Thomas (Bob y Bildar)
3ydd – Thomas Fear (Sam Tân)
Pâr neu Grŵp Gorau:
Florence a George (Tinkerbell a Peter Pan)
Enillydd yr Enillwyr:
Benjamin Eadon (John Deere)
Mabolgampau
Yna, cynhaliwyd y Mabolgampau gyda’r plant a’r oedolion yn mwynhau rasus wy ar lwy, bag ffa ar y pen, ras deircoes a thaflu welington. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd gemau ‘It’s A Knockout.’ Roedd 6 tîm o blant, tîm menywod a thîm dynion. Cafwyd tipyn o hwyl yn bwyta cracyrs sych a weetabix sych, ac roedd gornestau tynnu’r gelyn yn hynod o boblogaidd. Tîm y Mwnciod oedd yn fuddugol!
Diolch i bwyllgor y neuadd am y trefniadau, Gethin Jones am gael benthyg y cae ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y dydd.