Wedi ‘r golled yn erbyn Talacharn y Sadwrn cynt, braf oedd cael canlyniad boddhaol ar Barc Drefach dydd Sadwrn a hwythau yn eu crysau newydd am y tro cyntaf.
Rhaid cyfaddef bod y gwrthwynebwyr y tro yma yn dipyn gwannach tîm. Er hynny, gydag ychydig o newidiadau i’r tîm mi gafwyd perfformiad arbennig gan y bechgyn lleol gyda nifer ohonynt yn disgleirio.
Pedair Cais
Nid oedd gan fechgyn Doc Penfro ateb i’r chwarae agored a greddfol a ddangoswyd gan Aberaeron. Gyda’r maswr, Steffan Rees yn cicio’n bwrpasol i gadw’r chwarae tu fewn i 22 yr ymwelwyr, roedd y pwysau yn ormod iddynt. Sgoriwyd pedair cais yn yr hanner cyntaf. Croesodd y canolwr Gethin Jenkins am y cyntaf wedi derbyn y bêl ar ongl gyfrwys o sgrym ar y 22. Yr asgellwr Steffan DJ Jones oedd yr ail i groesi’r llinell wedi ‘r bêl fynd trwy ddwylo’r olwyr iddo sgorio yn y cornel. Daeth y trydydd cais wedi i Bleddyn Thomas o’r ail reng ddarganfod ei hun ymysg yr olwyr, dderbyn y bêl a charlamu tuag at y llinell, gan ochrgamu a maeddu tri amddiffynnwr i sgorio cais arbennig. Y bachwr Rhys “Bwtch” Jones gafodd y pedwerydd cais wedi gwthiad da gan y blaenwyr o’r llinell 5 metr.
Tair Cais Arall i’r Canolwr
Dechreuwyd yr ail hanner yr un fath a’r cyntaf gyda’r canolwr disglair, Gethin Jenkins yn sgorio eto. Y tro yma gyda rhediad gwefreiddiol o hanner ei hunan. Owen Wozencraft oedd y nesaf i sgorio wedi ymdrech gan y blaenwyr o gic rydd ar y llinell 5 metr. Ymhen pum munud, mi wnaeth Gethin sgorio eto. Derbyn y bêl o gic rydd, eto yn agos at y llinell gais, mi wnaeth frwydro trwy’r amddiffyn i groesi am ei drydydd cais. Llŷr Davies oedd y nesaf i sgorio wedi bylchiad gan Lewis Tomlins, wnaeth basio’r bêl i Bleddyn Thomas cyn rhyddhau Llŷr i sgorio dan y pyst. Gethin Jenkins oedd y nesaf gan redeg yn glir wedi rhyng-gipiad ar ei 22 ei hunan i sgorio’i bedwerydd cais.
Amddiffyn Blinedig
Roedd yr ornest wedi ei hennill ers tro ac mi fanteisiodd Doc Penfro ar ddiffyg canolbwyntio gan chwaraewyr blinedig Aberaeron yn y gwres i sgorio dwy gais gysur tua diwedd y gêm.
Bu’r maswr, Steffan Rees yn llwyddiannus gyda chwe throsiad ag un gic gosb. Rhaid canmol y chwaraewyr i gyd wnaeth fynd ar y cae ond yn arbennig Gethin Jenkins, Rhys “Bwtch” Jones, Bleddyn Thomas a Hefin Williams. Mi chwaraeodd y bechgyn yma yn eithriadol o dda gan fod yn rhan o dîm a roddodd gwledd i’r cefnogwyr niferus fu’n gwylio.
Edrychwn ymlaen at deithio i Aberteifi dydd Sadwrn nesaf am frwydr galed arall.
Cwb Rygbi Athletig Aberystwyth 32 – 12 Gwylanod Aberaeron
Colli bu hanes y Gwylanod yn Aberystwyth yn erbyn tîm tipyn cryfach ar y dydd. Mi wnaethon frwydro’n dda a chadw’r sgôr yn agos tan y munudau olaf. Sgoriwyd ceisiau gan Bobby Jones a Tudur Jenkins ac fe giciodd Iwan Lloyd un trosiad.