Dangosodd y gêm yma bod yna gystadleuaeth gref yn y gynghrair yma eleni gyda’r timoedd gorau yn brwydro’n galed am ddyrchafiad i’r ail adran. Mae Aberteifi bob amser yn dîm anodd ei guro. Fe brofodd y dasg yn amhosib ddydd Sadwrn diwethaf i Aberaeron.
Mi gafodd Aberaeron digon o feddiant a thiriogaeth yn y gêm yma ond mi roddwyd lawer gormod o giciau cosb i ffwrdd, yn enwedig yn yr hanner cyntaf i adael i Aberteifi adeiladu sgôr yn hawdd. Er i Steffan Rees sgorio trosgais a chic gosb i Aberaeron, dim ond un pwynt o wahaniaeth oedd ynddi ar hanner amser gyda’r sgôr yn 9- 10.
Camgymeriadau sylfaenol
Gwnaeth Aberteifi fynd ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner trwy gic gosb hir gan eu cefnwr, Shaun Leonard a throsgais wedi cwpwl o gymalau o lein 5 metr. Roedd yn rhaid i Aberaeron gwrso’r gêm erbyn hyn ond roedd yna ddigon o amser ar ôl. Sgoriodd yr wythwr Ryan Williams wedi hyrddiad cryf gan y blaenwyr o linell 5 metr.
Roedd buddugoliaeth i’r ymwelwyr yn edrych yn bosib gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill, ond er yr holl bwyso yn hanner eu gwrthwynebwyr, ofer bu’r ymdrech. Cafwyd digon o gyfleoedd i sgorio ond nid oedd y trafod yn ddigon da i orffen y symudiadau.
Felly, bu rhaid bodloni ar bwynt bonws yn unig yn eu hail gêm oddi cartref y tymor hwn. Bydd yna saib o gemau’r gynghrair dydd Sadwrn nesaf gyda rownd gyntaf y cwpan i’w chwarae ar Barc Drefach yn erbyn Talacharn.
Bydd y Gwylanod hefyd yn chwarae yn erbyn Arberth wedi’r gêm gwpan.