Roedd y gobeithion yn uchel cyn mynd i lawr i Ddoc Penfro ar gyfer y gêm hon. Gyda Doc Penfro yng nghanol y tabl roedd hi’n weddol sicr y byddai Aberaeron yn casglu pum pwynt yn hawdd yn y gêm yma. Nid felly y bu! Gorfu iddynt weithio’n galed am eu pwyntiau.
Roedd y tîm cartref yn lawer cryfach nag oedd pawb wedi disgwyl.
Cyfartal oedd y chwarae am y deng munud cynta’ gydag amddiffyn y ddau dîm yn drech na’r ymosod. Yna, dyfarnwyd cic gosb i Aberaeron o fewn cyrraedd i’r pyst – dim problem i’r ciciwr Rhodri Jenkins!
Eto, roedd yr ymwelwyr yn eu ffeindio hi’n anodd torri trwy’r amddiffyn, ac mi roedd rhaid amddiffyn hefyd yn erbyn olwyr ifanc a dawnus y tîm cartref. Cyfartal oedd y chwarae o blith y blaenwyr. Roedd yna rywbeth yn ishe yn chwarae Aberaeron yn y gêm yma. Tybed ai yn y pen oedd y broblem?
Yn y diwedd, wedi tua phum munud ar hugain o chwarae mi ddaeth y cais gyntaf. Wedi tipyn o bwyso a nifer o sgarmesoedd, mi ledwyd y bêl i’r asgell at Steffan “DJ” Jones i groesi am gais. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad.
Doc Penfro yn taro nôl
Nid oedd Doc Penfro yn barod i eistedd nôl ac erbyn hanner amser roeddent wedi sgorio trosgais a chic gosb gan adael y sgôr yn 10 – 10 ar yr egwyl.
Anaf i Rhodri Thomas
Cyn diwedd yr hanner cynta’ bu mewnwr Aberaeron, Rhodri Thomas yn anffodus i gael anaf i’w ysgwydd a gorfu iddo adael y cae. Rhaid oedd gwneud newidiadau, gyda Morgan Llewelyn yn symud i’r rhif 9 a Steffan “DJ” yn cymryd ei le fel cefnwr ar ddechrau’r ail hanner.
Rhaid bod y sgwrs ar hanner amser wedi bod yn ddiddorol! Mi ddaeth Aberaeron allan am yr ail hanner gyda thipyn mwy o dân yn eu boliau a mwy o sbarc yn eu chwarae. O fewn ychydig funudau roedd y bachwr diwyd, Rhys “Bwtch” Jones yn croesi am gais.
Doc Penfro ar y blaen
Taro’n ôl wnaeth y tîm cartref yn syth gyda throsgais wedi amddiffyn gwan gan yr ymwelwyr, gan eu rhoi ar y blaen am y tro cynta’. Roedd y gêm yn dal yn y fantol, a’r gobeithion am bum pwynt wedi llwyr ddiflannu.
Cais i Seren y Gêm
Mi wnaeth Aberaeron ddal gyda’r tempo cyflym wedi ail-ddechrau a chyn hir sgoriwyd cais arbennig gan yr wythwr a seren y gêm, Wil James. Ychwanegwyd cic gosb i Aberaeron gan Rhodri Jenkins ond gyda’r sgôr yn 17 – 23 roedd y fuddugoliaeth ddim yn sicr i’r ymwelwyr.
Er hynny, gydag Aberaeron oedd y momentwm a chyn diwedd y gêm, sgoriwyd cais gan y cyngapten, Siôn Evans a’i throsi gan Rhodri Jenkins gan hefyd sicrhau’r pwynt bonws o’r diwedd.
Am ryw reswm, mi wnaeth Aberaeron waith caled o ennill y gêm hon a sicrhau’r pum pwynt. Bydd rhaid iddynt chwarae yn well na hyn yn eu gemau nesaf os am gystadlu am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor.
Bydd eu cyfle nesaf adref yn erbyn Tyddewi’r Sadwrn nesaf.