Cymanfa Garolau Sioe’r Cardis yn Eglwys Aberaeron

Noson hyfryd Nadoligaidd

Rhian Dafydd
gan Rhian Dafydd
IMG_9516

Côr Cardi-Gân

Llywydd y Noson, Delyth Talgrwn
IMG_9518

Parchedig Wyn Maskell a Dylan Rhys Jones

IMG_9519

Lluniaeth a Chlonc yn Neuadd yr Eglwys

Cafwyd noson arbennig nos Sul ddiwethaf yng Nghymanfa Garolau Sioe’r Cardis yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron.
Diolch o galon i Rhian Dafydd am y dewis hyfryd o garolau ac am ein harwain mor egnïol. Yr artistiaid oedd Côr Cardi-Gân a chafwyd datganiadau hyfryd ganddynt o ‘Gad i’r Ddaear Droi’, ‘Myfi Yw’, ‘O Ddwyfol Nos’ ac ‘Mae’r Sêr yn Canu’ gan Robat Arwyn. Cyfeilydd y Côr a’r gymanfa oedd y Parchedig Wyn Maskell gyda Dylan Rhys Jones ar y drymiau. Llywydd y noson oedd Delyth Jenkins neu Delyth Talgrwn fel mae’r mwyafrif ohonom yn ei hadnabod a chafwyd araith bwrpasol ganddi. Roedd yr Eglwys a Neuadd yr Eglwys wedi eu haddurno’n hardd gan aelodau Pwyllgor Canol y Sir ac roeddent hefyd wedi darparu gwin cynnes a mins pei i bawb yn dilyn y gymanfa. Diolch i bawb a gyfrannodd a sicrhau ei bod hi’n noson i’w chofio a diolch hefyd i bawb a ddaeth allan i ganu a chefnogi. 🎶 🎄🌟