Wedi misoedd o baratoi, fe wnaeth y côr meibion lleol, Bois y Gilfach ymuno â Chôr merched Tonic o Gaerfyrddin yn Neuadd y Celfyddydau Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llambed ar nos Sadwrn yr 2il o Ragfyr, i gyd-gyflwyno campwaith Robat Arwyn, Atgof o’r Sêr.
Syniad arweinydd Côr Tonic, Sue Hughes oedd cydweithio i gyflwyno’r gwaith mewn dau leoliad ar ddwy nos Sadwrn yn olynol – y cyntaf yn neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin cyn dod ynghyd eto yn Llambed. Perfformiwyd o flaen tua 750 o bobl dros y ddau gyngerdd.
Bu’r gyngerdd yn Llambed yn gyfle i Bois y Gilfach godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at yr elusen ddewisedig am y flwyddyn, sef Ysbyty Arch Noa.
Cyflwyniad pwerus am Ysbyty Arch Noa
Mewn anerchiad llawn emosiwn, fe gyflwynodd llywyddion y noson, Alun ac Enid Evans, Trem y Dyffryn, Talsarn arwyddocâd a phwysigrwydd Ysbyty Arch Noa i’w teulu. Mae eu hwyres, Anest – merch Elin ac Emyr, un o aelodau’r côr, wedi derbyn triniaeth yn yr Ysbyty yng Nghaerdydd, a braf oedd ei gweld yn y gyngerdd yn mwynhau (ac yn cael dechrau cynnar i ddathliadau ei phenblwydd yn bedair oed).
‘Roedd y gyngerdd hefyd yn gyfle i ddangos dillad newydd y côr – set o grysau a chotiau sydd wedi eu prynu gyda chymorth nifer o sefydliadau, yn cynnwys Cynghorau Cymuned Henfynyw, Llanarth, Llandysiliogogo, Llanfihangel Ystrad, Llanllwchaearn a Nantcwnlle; Eunice Colwell, Tafarn y Gilfach, Mydroilyn; Emyr a Sarah Jones, Siop Nisa Ffos-y-ffin.