Cafwyd perfformiad disglair gan y 20 chwaraewr wnaeth gymryd rhan ar Barc Drefach y Sadwrn diwethaf. Er bod y sgôr terfynol yn ymddangos fel buddugoliaeth gyfforddus i’r tîm cartref, roedd cyfraniad yr olwyr yn gwrthymosod a chreu cyfleoedd i sgorio yn ganolog at gadw’r sgorfwrdd i droi. Bu rhaid amddiffyn am amser hir a rhaid rhoi clod am gadw’r ymwelwyr rhag sgorio mwy o geisiai.
Gyda blaenwyr trwm Neyland yn chwarae gêm dynn, prin oedd meddiant Aberaeron yn y deng munud cyntaf. Roedd y gwrthwynebwyr yn drech nag Aberaeron ymhob agwedd o chwarae. Gyda nhw yn ennill y frwydr am diriogaeth a meddiant, bu’n ymdrech lew gan y tîm cartref i amddiffyn eu llinell gais.
Croesi’r llinell hanner o’r diwedd!
Wedi pwyso ar linell gais Aberaeron am sbel, mi wnaeth Neyland gawlach o lein 5 metr. Mi gafodd mewnwr ifanc Aberaeron, Cian Jones afael yn y bêl a dianc drwy grafangau’r pac a brasgamu i mewn i hanner y gwrthwynebwyr am y tro cyntaf. Cafodd ei daclo ond daeth y bêl yn ôl at olwyr Aberaeron i ymosod ond methwyd â chymryd mantais o’r sefyllfa gan i’r olwyr gam-drafod y bêl pan oedd cyfle da i sgorio.
O’r sgrym ddilynol fe gliriodd Neyland y bêl yn ddwfn i mewn i hanner Aberaeron. Mi gasglwyd y bêl gan y cefnwr, Morgan Llewelyn a wnaeth wrthymosod gan dorri trwy’r amddiffyn cyn danfon pas hir at Matthew Harries ar yr asgell dde. Roedd gan Matthew dipyn o waith i’w wneud, ond mi wnaeth ei gyflymder faeddu dau amddiffynnwr i sgorio cais cyntaf y prynhawn.
Dwy gais mewn 3 munud
Wedi’r cais mi wnaeth Aberaeron godi eu gêm a bu cyfres o gymalau gyda chwarae cyflym a thrafod cywir gan y blaenwyr a’r olwyr. O ryc yn agos at linell gais Neyland, a chan ddangos ffug-bas, mi dorrodd Cian Jones trwy ddau amddiffynnwr i sgori cais teilwng.
O’r ail ddechrau mi wnaeth yr wythwr, Wil James ennill tir wedi iddo gael gafael ar y bêl. Gwnaeth y bachwr, Rhys “Bwtch” Jones ennill mwy o lathenni cyn i’r bêl gyrraedd yr olwyr. Gyda thipyn o sbarc yn eu chwarae aeth y bêl yn gyflym drwy’r dwylo a’r ryciau o un ochr o’r cae i’r llall ag yn ôl cyn i Morgan Llewelyn dderbyn y bêl ar yr asgell dde. Ciciodd hi dros yr asgellwr a’i dal i redeg yn rhydd i sgori dan y pyst.
Neyland yn taro nôl
Nid oedd Neyland yn dîm i eistedd yn ôl, a chyn hir mi roeddent wedi sgori cais eu hunain. Gwaith da gan eu blaenwyr roddodd sefyllfa iddynt ledu’r bêl i’r maswr, George Evans a basiodd at ei fewnwr, Owen Hamer oedd wedi rhedeg o’i amgylch i groesi am eu cais cyntaf.
Pwynt bonws cyn hanner amser
Daeth y pwynt bonws yn y man wrth i Wil James groesi o dan y pyst wedi rhediad cryf trwy’r amddiffyn. Yr asgellwr, Steffan DJ Jones oedd y nesaf i sgori wedi i’r bêl gael ei symud yn effeithiol drwy’r dwylo.
Ail hanner
Bu’r chwarae am y deng munud cyntaf o’r ail hanner yn weddol gyfartal ond yn y diwedd mi aeth y bêl drwy’r dwylo at Steffan DJ Jones ar yr asgell i groesi am ei ail gais yn y cornel.
Ni fu unrhyw sgôr pellach am amser gan fod y ddau amddiffyn yn drech na’r ymosod. Daeth cais haeddiannol i’r ymwelwyr wedi pwyso cyson gan eu blaenwyr a wnaeth alluogi iddynt groesi am eu hail gais.
Un cais arall i’r tîm cartref
I goroni’r diwrnod, sgoriwyd cais arall gan Morgan Llewelyn i roddi sglein ar eu perfformiad. Dewiswyd Cian Jones fel seren y gêm ond rhaid canmol perfformiad Rhodri Jenkins. Cyfrannodd 14 pwynt drwy gicio saith trosiad.
Teithiodd y Gwylanod i lawr i Grymych. Colli o 25 pwynt i 12 bu eu hanes ond mi gafwyd perfformiad dewr ganddynt yn erbyn tîm o safon. Cafwyd ceisiai gan seren y gêm, Dilwyn Harries a’r capten, Gethin Hughes. Troswyd un cais gan y prop, Osian Davies.
Bydd Aberaeron yn teithio i Benfro’r Sadwrn nesaf gan obeithio am fuddugoliaeth arall i’w cadw ar frig y gynghrair.