Wedi curo Penfro 57- 0 ar barc Drefach ynghynt yn y tymor, roedd y disgwyliadau’n uchel am fuddugoliaeth gyfforddus i lawr yn Sir Benfro’r Sadwrn diwethaf. Yn ffodus i’r ymwelwyr, aethpwyd â thîm cryf i lawr i chwarae’r gêm ddiwethaf ond un i ffwrdd yn y gynghrair y tymor ’ma.
Roedd Penfro yn dipyn cryfach tîm y tro hwn. Roedd ganddynt flaenwyr trwm ag olwyr oedd yn amddiffyn yn dda. Y tîm cartref oedd yn rheoli’r chwarae yn ystod y cyfnod cyntaf a gwnaeth amddiffyn dewr Aberaeron yn dda i’w cadw rhag sgori. Wedi bod yn pwyso tu fewn i 22 Aberaeron am gyfnod, dyfarnwyd cic gosb i Benfro, ond mi wnaeth y bêl daro’r postyn. Gwnaeth maswr Aberaeron, Steffan Rees gicio’r bêl yn glir dros yr ystlys i ryddhau’r pwysau.
Aberaeron yn codi eu gêm
Wedi hyn, mi wnaeth Aberaeron ddechrau chwarae. Mi wnaeth Steffan Rees gadw’r chwarae yn hanner Penfro trwy gicio’n dda o’r dwylo a chyda thrafod da ymhlith yr olwyr mi ddyfarnwyd cic gosb i’r ymwelwyr. Dyna dri phwynt i Rhodri Jenkins i agor y sgôr.
Er i Aberaeron fygwth ychwanegu at eu sgôr, gwnaeth Penfro ddal eu tir a gweddol gyfartal bu’r chwarae cyn i’r canolwr, Ollie Sawyer dorri trwy’r amddiffyn i groesi am gais i Aberaeron wedi hanner awr o chwarae. Ategwyd at y sgôr gyda throsiad Rhodri Jenkins.
Gwnaeth Aberaeron gadw’r pwysau ar y tîm cartref a chyn hir mi wnaeth yr wythwr diwyd, Bobby Jones groesi am gais yn dilyn hyrddiad cryf gan y blaenwyr o linell 5 metr.
Orennau ar hanner amser (0-15)
Cafwyd orennau ar hanner amser – digwyddiad anghyffredin y dyddiau ’ma!
Gan eu bod tri sgôr ar y blaen, mi wnaeth hyder yr ymwelwyr godi. Er bod Penfro yn cael digon o feddiant, yr ymwelwyr oedd yn ennill tir yn gyson. Roedd y blaenwyr, Hefin Williams a Llŷr Davies yn tarddu ar linellau Penfro ag yn dwyn ambell i bêl. Mi roedd cicio cywir Steffan Rees yn cadw’r chwarae yn hanner Penfro. Roedd Aberaeron yn cyfuno yn dda rhwng y blaenwyr a’r olwyr gyda’r bêl yn eu dwylo, ag mi roedd yr wythwr, Bobby Jones neu’r blaenasgellwr a seren y gêm, Hefin Williams yn croesi’r llinell fantais yn gyson.
Cais yr un
Roedd y bêl gan Aberaeron, wedi iddynt ennill llinell ar ganol cae pan aeth y bêl drwy’r dwylo at Rhodri Jenkins yn y canol. Mi welodd fwlch ac mi enillodd 20 metr cyn pasio at Morgan Llewelyn a wnaeth rhedeg o amgylch yr amddiffyn i sgori cais. Cafodd ei throsi gan Rhodri Jenkins.
Daeth Penfro yn ôl gyda chais pan wnaeth eu blaenwyr roddi pwysau ar lein Aberaeron ond roedd y bygythiadau am ychwanegu at eu sgôr y weddol isel gan fod Aberaeron yn gyfforddus gyda’i hamddiffyn.
Dwy gais arall cyn diwedd
Gyda’r gêm i mewn i’r ddeng munud olaf, roedd eisiau cais arall ar Aberaeron i sicrhau’r pum pwynt. Mi ddaeth o’r diwedd wedi i Steffan Rees ddanfon pas fer at Morgan Llewelyn ar ganol cae. Roedd amddiffyn Penfro ar chwâl ag mi welodd Morgan y ffordd yn glir i sgori dan y pyst ac i roddi trosiad hawdd i Rhodri Jenkins.
Ifan Davies oedd yr olaf i groesi’r gwyngalch dros Aberaeron wedi rhediad cryf i lawr yr asgell dde. Roedd y cais yma’n dilyn chwarae arbennig gan y tîm cyfan, gan i’r bêl gael ei symud drwy’r dwylo a nifer o sgarmesoedd cyn cyrraedd yr asgellwr. Rhaid rhoddi clod iddynt am y fath berfformiad.
Pum pwynt gwerthfawr felly, i gadw’r pwysau ar eu gwrthwynebwyr ar frig y tabl. Bydd rhaid i Aberaeron deithio yn ôl i Benfro ar Chwefror 23 i chwarae yn rownd gynderfynol Cwpan Sir Benfro. Bydd eu golygon yr wythnos hon ar eu gêm nesaf adref yn erbyn Llanybydder y Sadwrn nesaf.